Oriau gwaith: 33 Oriau
Math o gontract: Rhan Amswer, Cyfnod Penodol Tan Mehefin 2026
Lleoliad: Lleoliadau mewn cymunedau ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tîm: Gwasanaethau i Oedolion
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,548 - £25,099 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi eisiau gweithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau drwy'r cymorth rydych chi'n ei ddarparu?
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein tîm ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Dydd am gyfnod penodol i weithio gydag unigolion yng Nghanolfan Ddydd Brooklands, Rhisga (dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener), a Chanolfan Ddydd Brondeg, Coed Duon (dydd Mercher a dydd Iau).
Rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n gallu goleuo ystafell wrth fynd i mewn iddi, sy'n dangos eu teimladau'n glir, sydd â sgiliau personol rhagorol ac sydd ag agwedd frwdfrydig a chadarnhaol tuag at bob agwedd ar weithio â phobl. Ein nod ni yw darparu dull sy'n canolbwyntio ar y person ac sydd wedi'i deilwra wrth ddarparu cyfleoedd cymdeithasol. Mae'r unigolion rydyn ni'n eu cynorthwyo wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydyn ni eisiau staff sydd wedi'u cymell i rymuso pobl i gyflawni eu nodau a'u canlyniadau. Rydyn ni am i chi fod y rheswm pam mae unigolion yn mwynhau eu sesiynau gyda ni. Byddwch chi'n dod yn rhan o dîm sy'n ymdrechu i ddarparu'r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y person.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
- Y gallu i arddangos a chyfathrebu'n effeithiol gydag unigolion, gofalwyr/perthnasau a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Y gallu i ddangos ymrwymiad i alluogi pobl i fod mor annibynnol â phosibl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sandra Forbes/ Rhay Duggan ar 07749710987/ 07546655159 neu ebost:
Forbes@caerphilly.gov.uk Duggar@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.