Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1040
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Therapi Galwedigaethol
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Rhan-amser
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36 - £16.37
Oriau Contract: 22.2
Dewch i ymuno â'n tîm Mae cyfle cyffrous ar gael ar gyfer Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol yn ein Tîm Cymunedol Oedolion Therapi Galwedigaethol Integredig yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd â dyhead gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal amrywiaeth o ymyriadau i bobl yn eu cartrefi eu hunain i alluogi a grymuso unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon a gwella perfformiad swyddogaethol trwy adsefydlu, ailalluogi, darparu offer ac addasiadau amgylcheddol.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn sy'n llawn cymhelliant ac sy'n angerddol am werth Therapi Galwedigaethol cymunedol gynnal momentwm o ran trawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ar draws sefydliadau ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Fel gwasanaeth Therapi Galwedigaethol, rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf a'i bod yn bwysig buddsoddi yn y person fel unigolyn gymaint ag yn ei ddatblygiad proffesiynol. Mae'r pandemig wedi dysgu i ni yn fwy nag erioed bwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac rydym yn cefnogi trefniadau gweithio hyblyg.
Rydym yn croesawu ymholiadau ac ymweliadau anffurfiol trwy gysylltu â:
Rachel Davey - 07943 854467
Disgrifiad Swydd: 033423.pdf - 156KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 23 Rhagfyr 2024
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 12/12/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.