Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Contract dros dro i gyd-fynd â gwyliau prifysgol
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â'n Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Integredig fel Cynorthwyydd. Mae'r Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio mewn tîm integredig i gefnogi unigolion i gael y cyngor, y wybodaeth a'r ymyrraeth sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hannibyniaeth a'u sgiliau. Maent yn gweithio gydag unigolion a'u teuluoedd i hyrwyddo'u dewisiadau a'u dymuniadau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae hwn yn gyfle gwych i chi ymgyfarwyddo â rôl Therapydd Galwedigaethol, lle bydd cyfle i chi ymarfer yr hyn rydych wedi ei ddysgu, a delio âr achosion llai cymhleth ond yr un mor bwysig, sy'n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn ymroddgar a brwdfrydig gyda rhywfaint o brofiad o weithio gydag oedolion ag anableddau, naill ai ar leoliadau clinigol wrth astudio yn y brifysgol i ddod yn Therapydd Galwedigaethol neu mewn amgylchedd gwaith. Dylent feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod yn barod i ddysgu a datblygu sgiliau asesu a rheoli risg. Mae'r gallu i weithio'n effeithiol yn rhan o dîm mawr yn ffactor allweddol. Bydd gwybodaeth am offer ac addasiadau yn fuddiol. Mae'r gallu i deithio o gwmpas Torfaen yn eich car eich hun yn hanfodol.
Yn gyfnewid, byddwn yn eich croesau i amgylchedd cefnogol sydd â chyfleoedd da i ddatblygu eich gyrfa.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn âr swydd hon, cysylltwch â Sarah Kimber 01495 761621, sarah.kimber@torfaen.gov.uk
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr