Cynorthwyydd yr Uned Fusnes
Cyflogwr
Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council
Lleoliad
-
Sir Benfro
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Rhan Amser
Disgrifiad o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi Cynorthwyydd yr Uned Fusnes i ymuno â Gwasanaeth Cynnal a Chadw Adeiladau Cyngor Sir Penfro. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol a gweithredol i wasanaeth prysur, sy'n cynnwys ymateb i geisiadau am waith atgyweirio, gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd ymlaen llaw, rhaglenni cyfalaf a chytundeb lefel gwasanaeth a'r gwasanaethau mecanyddol a thrydanol ar gyfer holl asedau ac eiddo'r awdurdod lleol.Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm uned fusnes ehangach o fewn Tai, Diogelu'r Cyhoedd a Chynnal a Chadw Adeiladau. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ac felly mae sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu da yn hanfodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid a chleientiaid. Fel ymgeisydd delfrydol, byddwch wedi'ch addysgu hyd at lefel TGAU a chyda phrofiad o weithio dan bwysau ac i derfyn amser. Byddwch yn gweithio'n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm amrywiol felly mae angen i chi allu gweithio'n drefnus a bod yn hyblyg pan fo angen. Bydd gofyn i chi hefyd feddu ar sgiliau TG, meddalwedd a llythrennedd cyfrifiadurol helaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.