Mae'r rôl hon yn cynnwys ymgysylltu â busnesau ledled Ceredigion i ddatblygu cyfleoedd i Ofalwyr Di-dâl gael seibiant o'u rôl ofalu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol i gyflawni nodau strategol y tîm a'r awdurdod.
Ynglŷn yr ymgeisydd Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos ymrwymiad i ddatblygu partneriaeth a chydweithio â sefydliadau eraill, gan gynnwys y sector preifat. Bydd angen i ddeiliad y swydd roi Gofalwyr Di-dâl wrth wraidd y prosiect ac ymgysylltu'n effeithiol i gyd-greu cyfleoedd i Ofalwyr gael seibiant.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ddim yn siarad Cymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu Cymraeg neu i wella eu sgiliau yn cael cynnig gwersi yn ystod oriau gwaith i gyrraedd y safon a ddymunir.
Ein cynnig i chi Rydym yn ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn rhoi cymorth i'ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb y rôl hon yn sydyn ac yn hyderus er mwyn ichi fedru datblygu eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion gwaith i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion ehangach i'r teulu, arbedion hamdden a siopa, pecynnau iechyd a llesiant i'r gweithwyr.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr
yma.
Credwn fod cydbwyso bywyd a gwaith yn bwysig iawn. I'ch cefnogi i gyflawni hyn bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni amodau penodol, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser hyblyg:Gellir gweithio oriau o fewn rhychwant penodol, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ôl anghenion y gwasanaeth.
Manylion Ychwanegol Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ceisio secondiad. Argymhellir eich bod yn gofyn am ganiatâd y rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais, i sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Fe wnawn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion Cysylltwch â ni Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â:
sarah.griffiths@ceredigion.gov.uk Cynhelir cyfweliadau: Ym mherson, yn Penmorfa, Aberaeron. Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau. Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cymorth Cynnar - Llesiant Cymunedol a Dysgu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy