Oriau gwaith: 37 Oriau Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31-08-2025
Lleoliad: Cartref Preswyl Tŷ Iscoed
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Preswyl Pobl Hŷn ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £34,314 - £37,035 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cartref Preswyl Tŷ Iscoed yn darparu llety tymor hir a thymor byr i bobl hŷn sy'n byw gyda dementia.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r tîm sydd â'r sgiliau, y profiad a'r ymrwymiad angenrheidiol i gynorthwyo Rheolwr Tîm y Cartref. Byddwch chi'n cynorthwyo'r rheolwr ac yn darparu arweinyddiaeth i'r tîm o staff i fodloni'r holl ofynion statudol a rheoleiddiol yn unol â chodau ymddygiad a gweithdrefnau y Cyngor.
Hefyd, bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod pobl sy'n byw yn y Cartref yn profi'r safon uchaf o ofal ym mhob maes gan gynnwys gofal sy'n canolbwyntio ar berthynas a gofal dementia.
Bydd y Dirprwy Reolwr yn gyfrifol am y Cartref yn absenoldeb y Rheolwr Tîm.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Unrhyw gymwysterau wedi'u rhestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer cofrestru fel Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion.
- Gwybodaeth am Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Tracey Walters/Caroline Davies ar 07968375059/ 01495 243189 neu ebost:
waltet@caerphilly.gov.uk daviecv@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.