Dirprwy Reolwr - Gwasanaeth Ailalluogi
Cyflogwr
Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council
Lleoliad
-
Sir Benfro
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Rhan Amser
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Cartrefi Gofal
- Rôl
- Rheolwr Dirpwy Cartref Gofal
Disgrifiad o'r swydd
Mae Gwasanaeth Ailalluogi Cyngor Sir Penfro yn ehangu ac, fel rhan o'r datblygiad hwn, mae angen dirprwy reolwr arnom. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r rheolwr cofrestredig i reoli, datblygu ac adolygu darpariaeth gofal ac arferion da sy'n cefnogi gwella ansawdd bywyd, llesiant, cynhwysiant, dewis ac urddas er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a darpariaeth gwasanaethau gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn galluogi unigolion i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth a'u sgiliau byw bob dydd yn unol â deddfwriaeth gyfredol a newydd, gan weithredu hon yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chodau ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru.Byddwch yn dirprwyo ar ran y rheolwr cofrestredig yn ystod ei absenoldeb, gan ymgymryd â'r ystod lawn o ddyletswyddau rheoli yn ôl yr angen. Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i rywun sy'n uchelgeisiol ac sydd eisiau cymryd y cam nesaf yn ei yrfa.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.