Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud:Byddwch yn gweithio fel rhan o'r tîm i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael seibiant byr ac asesiadau yng Nghonwy yn cael y lefel a'r safon briodol o ofal a chymorth. Bydd y gofal a'r cymorth hwnnw'n seiliedig ar helpu plant i fyw eu bywydau'n wahanol i'r ffordd y maen nhw'n ei fyw o ddydd i ddydd, drwy eu cynnwys mewn materion a phenderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, yn ogystal â helpu plant a theuluoedd i aros gyda'i gilydd.
Fel Dirprwy Reolwr Uned, byddwch yn helpu'r Rheolwr Preswyl i reoli canolfan asesu sydd wedi'i chofrestru ag AGC o ddydd i ddydd, gan arwain gwaith rheoli a datblygu tîm Therapiwtig Amlddisgyblaeth fel rhan o'r ganolfan asesu ac ymyrraeth.
Bydd disgwyl i chi gymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu cynlluniau wedi'u haddasu'n bersonol 'ar gyfer' a 'gyda' plant/pobl ifanc, gan fynd ati i gynnig gofal neu gymorth yn y funud sy'n bodloni'r canlyniadau a nodwyd ar gyfer unigolion ac sy'n dangos parch amlwg at eu hymreolaeth, eu hannibyniaeth, eu gwerthoedd personol a'u hurddas.
Bydd disgwyl i chi ddarparu cymorth i ddatblygu'r gweithlu a chynnig cyfleoedd ymarfer arloesol i fanteisio i'r eithaf ar sgiliau a gwytnwch y staff wrth ddarparu gwasanaeth therapiwtig pwrpasol sy'n galluogi plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o'u byd a'u profiadau o ddydd i ddydd.
Yr hyn rydym ni'n chwilio amdano: - Bydd gennych chi gymhwyster QCF Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth.
- Bydd gennych chi o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad preswyl i blant a phrofiad sylweddol o weithio gyda phlant/teuluoedd mewn modd sydd wedi'i gynllunio.
- Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o'r Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
- Profiad o arwain a goruchwylio staff trwy osod esiampl dda i bob aelod o'm o ran ymddygiad yn y gweithle ac o ran trefn, llwyth gwaith, perfformiad a chreu a chynnal diwylliant diogel, dymunol a llawn ymddiriedaeth yn y gweithle.
- Gallu gweithio'n greadigol ac yn arloesol gyda'm o staff preswyl i gyflawni'r canlyniadau gorau posib i'r plant.
- Profiad o hyfforddi, mentora ac arwain tîm o staff o fewn model gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio dulliau therapiwtig sy'n ystyriol o ymlyniad a thrawma i helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu'n oedolion iach ym mhob maes, gan gynnwys eu hiechyd corfforol, emosiynol, seicolegol a gweithredol.
- Gallu rheoli sefyllfaoedd heriol a chefnogi'm o staff wrth iddyn nhw archwilio strategaethau arloesol i fynd i'r afael ag anhwylder emosiynol.
- Gallu gosod esiampl dda o weithio ar y cyd mewn partneriaeth yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o ddatblygiad arferol yn ystod plentyndod, straen trawmatig, ymlyniad, risg a gwytnwch. Gwneir hyn gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau a'r ddarpariaeth mewn gwasanaeth a reoleiddir dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Profiad ac arbenigedd mewn annog plant i gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio eu gofal eu hunain a lle bo'n briodol, cynnwys teuluoedd yn y gwaith o gynllunio gofal ar gyfer eu plant, a meithrin/cynnal perthnasoedd dwy ffordd ar sail ymddiriedaeth, didwylledd, gonestrwydd a pharch o fewn ffiniau'r rôl.
Gwybodaeth ychwanegol:
- Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i wneud cais: Os ydych chi'n frwd dros annog a chefnogi plant i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn rhannu ein gwerthoedd o fod yn hyderus, yn gynnes ac yn onest, fe fyddem yn eich annog i wneud cais. Hyd yn oed os nad ydych chi'r holl feini prawf, ond yn credu y gellwch chi wneud argraff gadarnhaol, fe hoffem ni glywed gennych chi.
Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl i fod yn rhan o dîm sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, a manteisio ar y cyfle i ddatblygu eich gyrfa yn y maes gofal preswyl i blant.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Cathy Mackenzie, Rheolwr Gwasanaeth ( catherine.mackenzie@conwy.gov.uk / 01492 577778)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.