Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc?
Rydym ni'n angerddol am weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc i 'fyw'r bywyd gorau posibl' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Cyflawnir hyn drwy roi'r plentyn / unigolyn ifanc wrth wraidd yr holl waith cynllunio cymorth a datblygu strategaethau a fydd yn galluogi i'r plentyn / unigolyn ifanc ddatblygu sgiliau ym mhob agwedd o'u bywydau i roi annibyniaeth iddynt fel eu bod nhw'n teimlo'n rhan o'u cymunedau yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Fel y dirprwy reolwr byddwch chi'n atebol am oruchwyliaeth weithredol y tîm o weithwyr cymorth preswyl yn y cartref preswyl i blant.
Un o'r prif feysydd cyfrifoldeb fydd sicrhau eich bod chi'n hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi 'Cefnogaeth Weithredol', 'Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol' a 'Lleihau Arferion sy'n Cyfyngu' fel dull canolog o alluogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu mwy yn eu bywydau bob dydd; meithrin perthnasoedd cadarn gyda'r rhai o'u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Fel y dirprwy reolwr bydd gofyn i chi gefnogi'r rheolwr cofrestredig i:
- Reoli darpariaeth cyfrifoldebau gweithredol
- Sicrhau cydymffurfiaeth âr safonau yn y gwasanaeth y caiff ei reoleiddio.
- Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol âr Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Bydd y dirprwy reolwr yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm staff i sicrhau:
Eu bod nhw'n rhoi anghenion y plant a'r unigolion ifanc wrth wraidd eu gofal, a sicrhau bod ganddyn nhw lais a rheolaeth dros gyrraedd canlyniadau sy'n eu helpu nhw i sicrhau lles.
Bod plant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu grymuso i gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddylunio a darparu'r gwasanaeth drwy roi systemau cyfathrebu ar waith sy'n benodol i'r plentyn / unigolyn ifanc, a fydd yn rhoi llais amlwg iddyn nhw ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Bydd disgwyl i chi: Fod yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal o ddydd i ddydd mewn modd sy'n arwain at welliant parhaus yn y gwasanaeth fel bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gyflawni popeth y gallan nhw; eu bod nhw'n cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir;n ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth.
Bod yn esiampl dda i holl aelodau'm o ran ymddygiad yn y gweithle a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bob aelod o'u tîm i wneud eu gwaith mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar eu cryfderau.
Cyfathrebu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda'r plant/pobl ifanc, eu teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill o ddydd i ddydd yn ôl yr angen a datblygu perthnasoedd dwy ffordd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, gonestrwydd a pharch o fewn ffiniau'r swydd.
Goruchwylio a chynnig arweiniad yn y gweithle i weithwyr cefnogi a sicrhau eu bod nhw'n gweithio'n ddiogel ac mewn modd sy'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan Weithiwr Gofal Cymdeithasol dan God Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano gennych chi: Bod â QCF Lefel 3 mewn arweinyddiaeth plant a phobl ifanc neu NVQ cyfatebol er mwyn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr preswyl plant.
Gallu cyrraedd Lefel 4 City and Guilds - Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Profiad a gwybodaeth helaeth o weithio gyda phlant/pobl ifanc, gan gynnwys unigolion ag anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Fiona Dennison ar 01492 577772 neu Sonia Booth ar 01492 577604.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Laura Armstrong, Rheolwr Cofrestredig laura.armstrong@conwy.gov.uk
Sonia Booth, Rheolwr Tîm (01492 577604/ sonia.booth@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer 1 swydd, ac hanfodol ar gyfer 1 swydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English .