*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Lleoliad:- Uned Egwyl Fer Hafan Y Ser, Penrhyndeudraeth a Hafan Ni, Criccieth
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rona Jonesar 01766 772147
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 09.02.2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person Nodweddion personolHanfodol Sgiliau ardderchog o ddelio gyda phobl, o ran dangos parch, hiwmor ac empathi.
Proffesiynoldeb amlwg ac yn berson sydd yn ennyn parch ac ymddiredaeth eraill
Cyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant
Y gallu i weithio fel rhan o dim aml-ddisgyblaeth
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion.
Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol
Ddim yn farnwr
Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno
Yn gallu defnyddio'ch dychymyg i gysylltu'n emosiynol ag eraill
Gwerthfawrogi gallu'r unigolyn
Gallu gwneud y gorau o'r amser y mae'n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol
Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill
Y gallu i fod yn hyblyg
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar Dymunol - Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol Level 3 iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ymrwymo i gwblhau
Lefel 4 paratoi i arwain a rheoli mewn iechyd a gofal
ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig i gwblhau lefel 5 Arwain a
Rheoli mewn iechyd a gofal Dymunol Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal
Champion mewn maes arbennigol
Goruchwiliaeth
IOSH
Rheoli Safle
Cyfathrebu DISC
ILM
Cymhellaint
Mentora Profiad perthnasolHanfodol Profiad o fod wedi gweithio / cefnogi unigolion i fyw eu bywydau fel maent yn dymuno
Profiad o gyd weithio fel rhan o dîm Dymunol Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol Profiad o weithio oddi mewn tîm
proffesiynol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o gefnogi unigolion ac anghenion cymhleth. Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu a chofnodi da, yn barchus ac yn onest.
Sgiliau gweinyddol da, sgiliau cyfathrebu
Sgiliau Arwain staff a
Sgiliau Rheoli cyllid.
Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2014 a dealltwriaeth o'r safonau perthnasol 'Regulation and inspection of socail care wales2016
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Sgiliau TG
Profiad o weithio oddi mewn tîm profesiynnol.
Yn sensitif i deimladau eraill
Gallu dangos dyfeisgarwch
Y Gallu i greu perthynas dda gydag aelodau eraill o staff ac unigolion
Gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi mewn gweithgareddau byw bob dydd Dymunol Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodol
Meddu ar drwydded yrru ddilys (gofal cartref) Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Darllen a Deall - Lefel Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd. Ysgrifennu - Lefel Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y swydd Gweithio fel rhan o dîm preswyl, a chynorthwyo'r rheolwr i ddarparu gofal i blant mewn gofal mewn Cartref Plant:
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Fel aelod o'r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
• Cydweithio'n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Gweithredu fel dirprwy reolwr y cartref, gan gymryd cyfrifoldeb am rhai agweddau penodol wedi'w delegeiddio gan Reolwr yr uned.
• Mynychu cyfarfodydd ar ran yr uned.
• Cynorthwyo'r rheolwr gyda thasgau sy'n gysylltiedig a chynnal cofrestriad y cartref gydag Arolygaeth Gofal Cymru.
• Darparu ystod o ymyraethau gan ddefnyddio'r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a'u teuluoedd. Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer Offer - cegin a choginio, sicrhau deunydd priodol o gyfleusterau'r adeilad ( yn cynnwys hoists)
Rhoi goruchwylaieth i staff.
Rheoli cyllid.
Archebu nwyddau/cyfarpar.
Sicrhau diogewlch yr adeilad. Prif ddyletswyddau • I gyfrannu tuag at llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth, cymryd rhan mewn adolygiadau a chyfarfodydd eraill, ac i gynorthwyo wrth weithredu'r cynlluniau.
• Bod yn aleod o dim, gan rhoi arweiniad, cefnogi cyd-weithwyr a derbyn cefnogaeth fel bo'r angen.
• Datblygu perthynas weithio dda gyda theuluoedd i ddatblygu ymddiriedaeth, gwella cyswllt a mynediad i wasanaethau a chynorthwyo gyda chyfathrebu a chydlynu.
• Datblygu gwydnwch a hyder teuluoedd i'w grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain drwy roddi iddynt y sgiliau angenrheidiol.
• Mynychu Cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chyfrannu tuag at ddatblygu cynllun gweithredu. Cadw nodiadau cyfredol o'r holl gyfarfodydd a fynychir a'r gwaith achos a wneir. Darparu crynodeb ac adroddiadau o waith achos. .
• Annog a chefnogi teuluoedd i ddilyn y cynllun gweithredu.
• Llunio a darparu amrediad o ymyrraethau i gefnogi teuluoedd yn eu cymunedau lleol.
• Hybu a galluogi Plant i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
• Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn.
• Bod yn wyliadwrus o arwyddion o anhapusrwydd a chamdriniaeth ,ac i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a'u monitro.
• I adael i'r rheolwr llinell, neu unrhyw berson addas arall, wybod am unrhyw ymarfer gwael neu bryderus neu unrhyw dystiolaeth sy'n crybwyll hynny.
• I gymryd gofal o anghenion corfforol pobl ifanc fel bo angen e.e coginio, golchi, smwddio, siopa, ymolchi, rheoli arian, neu drwy cynorthwyo'r plant I gwblhau'r tasgau hyn.
• Rhoi gwybod i gyd-weithwyr o unrhyw ddatblygiadau/digwyddiadau perthnasol e.e wrth newid shift.
• I siarad efo, a gwrando ar blant, gan gofnodi unrhyw beth arwyddocaol.
• Mynychu cyfarfodydd tim ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo'r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Tim, gan gynnwys dirprwyo i'r rheolwr.
• Derbyn goruchwyliaeth gyson.
• Rhannu cyfrifoldebau goruwchylio staff parhaol gyda Rheolwr y cartref.
• Rhoi arweiniad i staff efo materion sy'n codi o ddydd i ddydd.
• Bod yn gyfrifol am rediad yr uned o ddydd i ddydd yn absennoldeb y rheolwr.
•r rheolwr i sicrhau rheolaeth effeithiol o holl agweddau rhedeg yr uned o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli'r gyllideb a sicrhau cydymffurfiaeth gyda Deddf Corestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.
• Bod yn hyblyg, o fewn ffiniau rhesymol, er mwyn sicrhau darpariaeth staff ddigonol ar gyfer yr uned.
• Ymgyfarwyddo a pholisïau, trefniadau a chanllawiau'r Cyngor ynglŷn ag arferion da a materion yn ymwneud ac Iechyd a Diogelwch.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi yn unol ag anghenion hyfforddi.
• Ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i'r swydd ac sydd er lles a datblygiad y plentyn.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin Amgylchiadau arbennig • Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
• Mae'r swydd wedi ei lleoli yn Hafan Y Ser Penrhyndeudraeth a Hafan Ni Criccieth, ond bydd hefyd yn golygu teithio gan y bydd yn delio gydag achosion ar draws Gwynedd.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr