Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1964
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
4
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Llandeilo, Llanymddyfri
Gradd:
Gradd E +8%
Cyflog:
£27,631 - £30,914
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.32 - £16.02
Oriau Contract:
26.25 awr
Dewch i ymuno â'n tîm "Helpu pobl i adennill eu hannibyniaeth - un cam ar y tro."
Gwnewch wahaniaeth go iawn - Ymunwch â'n Tîm AilalluogiYdych chi'n chwilio am swydd lle gallwch chi gael effaith gadarnhaol wirioneddol ar fywyd rhywun? Fel Gweithiwr Cymorth Ailalluogi, byddwch chi'n helpu unigolion-oedolion hŷn yn bennaf-i adennill eu hannibyniaeth a'u hyder er mwyn iddyn nhw allu parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain ar ôl salwch, anaf, neu newid mewn amgylchiadau.
Dim profiad? Dim problem! Os ydych chi'n dosturiol, yn amyneddgar, ac yn gyfathrebwr gwych sydd ag agwedd gadarnhaol, byddwn ni'n darparu hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus i chi lwyddo yn y rôl. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich parodrwydd i gefnogi pobl wrth iddyn nhw wella a'u helpu i fod yn fwy annibynnol.
Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o dîm cefnogol sy'n canolbwyntio ar alluogi pobl a gwella bywydau, un dydd ar y tro.
Mae bod yn Ofalwr Cartref yn ein Tîm Ailalluogi yn fwy na swydd yn unig - mae'n brofiad sy'n rhoi boddhad mawr.Byddwch chi'n ennill sgiliau amhrisiadwy, profiad ymarferol, a'r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl bob dydd. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol i'ch helpu chi i dyfu a llwyddo, beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
P'un a ydych chi am gael gyrfa hirdymor mewn gofal, neu ddatblygu sgiliau allweddol a phrofiad cyn symud ymlaen i addysg bellach neu lwybr gyrfa gwahanol, bydden ni'n falch iawn o glywed gennych chi.
Byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth helaeth i chi ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i fod yn ofalwr gwych. Mae'n waith caled ond yn werth chweil a byddwch chi'n rhan o sefydliad mawr gyda chyfleoedd i symud ymlaen. Byddwch yn cael eich croesawu i Dîm Gofal Cartref Cyngor Sir Caerfyrddin lle mae pawb yn falch o fod yn rhan o'r tîm sy'n cefnogi rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed mewn cymunedau lleol. I ddarllen yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud amdanom dilynwch y ddolen i'r adroddiad arolygu diweddaraf arolygiaethgofal.cymru.
Mae'n ofynnol i weithwyr Gofal Cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig. Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae ein graddau cyflog yn hynod gystadleuol gyda swyddi tebyg ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r gyfradd fesul awr ar gyfer oriau cytundebol gwarantedig ymhlith y rhai sy'n talu orau yng Nghymru ac rydym hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o fuddion eraill, megis tâl am deithio rhwng galwadau a 45c y filltir am gostau car personol, defnydd o geir adrannol, mynediad at gynlluniau buddion, cynllun pensiwn o safon uchel, hawl gwyliau â thâl hael, lwfansau mamolaeth a thadolaeth a llawer mwy.
Darperir gwisg, bagiau, cyfarpar diogelu personol a ffonau symudol i'n holl ofalwyr cartref i weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
- Marilyn Maynard - 07989 138736
- Eleri Gealy - 01267 242474
Disgrifiad Swydd:
Reablement Job Profile - Llandeilo - Llandovery.pdf - 208KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 31/07/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.