Dewch yn ofalwr Cysylltu Bywydau a bod yn gymorth i unigolion fyw bywydau annibynnol, boddhaus yn eu cymunedau.
Beth yw Cysylltu Bywydau?Mae Cysylltu Bywydau yn fodel gofal unigryw lle mae unigolion sy'n ceisio cymorth yn cael eu paru â gofalwyr sy'n eu croesawu i'w cartrefi a'u bywydau bob dydd. Gall y trefniant hwn fod yn un hirdymor, seibiant byr, neu gymorth dydd, gan feithrin amgylchedd tebyg i deulu a hybu annibyniaeth.
Rôl gofalwr Cysylltu BywydauFel gofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch yn:
- Darparu cefnogaeth bersonol: Cynorthwyo gyda gweithgareddau dyddiol fel ymolchi, bwyta, a symudedd.
- Cynnig cefnogaeth emosiynol: Annog a chefnogi unigolion i fagu hyder a dilyn eu nodau.
- Hwyluso ymgysylltiad cymunedol: Helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, gan feithrin cysylltiadau cymdeithasol.
- Hyrwyddo llesiant: Cefnogi unigolion i fyw mewn amgylchedd sy'n datblygu annibyniaeth ac adferiad.
Manteision dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau - Trefniadau gweithio hyblyg: Cefnogwch hyd at dri unigolyn, gan addasu eich amserlen i gyd-fynd â'ch ffordd o fyw.
- Hyfforddiant cynhwysfawr: Mynediad at hyfforddiant mewn meysydd fel rheoli meddyginiaeth, diogelu, y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, a chymorth cyntaf.
- Cefnogaeth barhaus: Monitro a chefnogaeth barhaus gan eich cynllun Cysylltu Bywydau lleol i lwyddo yn eich rôl.
- Cyflog cystadleuol: Cewch dderbyn lwfans rheolaidd ar gyfer pob unigolyn yr ydych yn ei gefnogi, gyda'r hawl i dalu llai o dreth, a byddwch yn ennill rhwng £460 a £728 yr wythnos.
Pwy all ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?Rydym yn croesawu unigolion o bob cefndir. Mae angen meddu ar y nodweddion canlynol:
- Caredig: Yn llawn cydymdeimlad, yn ofalgar, a thosturiol; rhywun sy'n rhoi blaenoriaeth i'r unigolyn y mae'n ei gefnogi.
- Proffesiynol: Yn drefnus, yn gallu dilyn prosesau, ac wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd uchel.
- Meddwl agored: Yn anfeirniadol, yn barod i roi cynnig ar bethau newydd, ac yn gallu addasu i anghenion eraill.
- Yn benderfynol: Yn barod am her ac yn ymroddedig i helpu eraill i gyflawni eu canlyniadau.
- Yn ddiffuant: Yn onest, â'ch traed ar y ddaear ac yn agos-atoch.
Y broses o wneud caisCysylltwch â ni i gael gwybod mwy a dechrau eich taith i ddod yn ofalwr Cysylltu BywydauE-bostiwch ni ar recruitmentwwsl@pembrokeshire.gov.uk
Neu ewch i'n gwefan rhanbarthol @ Cysylltu Bywydau - Cyngor Sir Caerfyrddin