Mae Maethu Cymru Caerffili yn chwilio am ofalwyr maeth i ddarparu dyfodol gwell i blant lleol yn Awdurdod Lleol Caerffili. Mae'n hynod werth chweil, yn hyblyg ac yn agored i bobl o bob cefndir. Gall fod yn heriol, ond byddwn ni yma i chi bob cam o'r ffordd. Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun wrth eu hochr, i wrando arnyn nhw, i gredu ynddyn nhw ac i'w caru nhw. Nid oes unrhyw blentyn maeth nodweddiadol na theulu maeth nodweddiadol. Mae gan bob plentyn yn ein gofal ei ddiddordebau a'i bersonoliaeth ei hun ac mae pob un wedi dod o set unigryw o amgylchiadau sydd wedi llunio eu bywydau hyd yn hyn. Rydyn ni yma i sicrhau dyfodol gwell iddyn nhw.
Gallwch chi gael effaith enfawr ar fywyd plentyn. Os oes gennych chi empathi, ac os allwch chi gynnig diogelwch a lle y gall plentyn ffynnu, yna dylech chi roi cynnig arni. Mae maethu’n golygu derbyn plentyn fel rhan o’ch teulu pan fydd yn rhaid iddo fod i ffwrdd o’i deulu ei hun. Wrth wraidd maethu, mae ymroddiad i wneud gwahaniaeth – newid cwrs bywyd plentyn. Mae gofalwyr maeth yn cael eu dewis, eu hasesu, eu hyfforddi a'u cynorthwyo'n ofalus gan y cynllun. Maen nhw’n unedig drwy eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad, a'u cymhelliant cadarnhaol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant.
Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru Caerffili, byddwn ni hefyd yn talu am eich aelodaeth i'r Rhwydwaith Maethu a'r Gymdeithas ar gyfer Maethu, Gofal Perthynas a Mabwysiadu (AFKA) Cymru. Mae'r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig cymorth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad, hyfforddiant a llu o fuddion ychwanegol.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth maethu atodedig neu ewch i'r wefan –
https://fosterwales.caerphilly.gov.uk/cy/ neu ffonio 0800 5875664