Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Carys Owen ar 01248 354311 neu carysowen2@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 03/03/2026 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant.pdf
Manylion Person Nodweddion personolHanfodol Bod yn berson brwdfrydig gyda'r weledigaeth a'r gallu i drefnu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y Ganolfan.
Bod yn sensitif, ymroddedig gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser.
Person cyfrifol i sicrhau diogelwch y defnyddwyr, staff ac eraill ar y safle.
Gallu i arwain ac ymdrin a staff. Dymunol - Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol Trwydded Yrru Lan Dymunol N.V.Q 2 mewn Gofal
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu gymorth cyntaf
Hyfforddiant rheoli staff Profiad perthnasolHanfodol Blynyddoedd o brofiad o ofalu am bobl hyn yn y gymuned neu breswyl.
Profiad o unrhyw fath o waith gweinyddol
Profiad o lunio a chyfrannu tuag at gynlluniau gofal Dymunol - Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth am anghenion pobl hyn a'r datblygiadau yn y maes gofal
Bod yn grefftus a chreadigol Dymunol - Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd. Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynnal gwasanaeth dydd i bobl hyn,a`I Reoli yn absennoldeb y Goruwchwyliwr Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Cyfrifoldeb i sicrhau fod adeiladau y gwasanaeth a'r holl ddodrefn, offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn cyflwr da. Dylid rhoi gwybod i'r Adain Eiddo neu asiantaeth arall (cwmni priodol) am unrhyw ddiffyg.Yn absennoldeb y Goruwchwyliwr angen sicrhau fod staff a chyllid y Sefydliad yn cael ei reoli yn effeithiol. Prif ddyletswyddau Gofalu'n gyffredinol am les y clientau
• Darparu prydau, cynhesrwydd, gofal cyffredinol gan gynnwys bathio a thrin gwallt, cynorthwyo clientau i'r toiled, golchi dillad personol, yn ogystal â chwmnïaeth a symbyliad cymdeithasol.
• Cymryd rhan a chyfrannu at adolygiadau ffurfiol defnyddwyr y gwasanaeth Gofal Dydd a ffurfio cynlluniau ar gyfer eu gofal yn y dyfodol.
• Trefnu gweithgareddau hybu iechyd, a pharatoi rhaglenni cymdeithasol amrywiol - siaradwyr, teithiau, boreau coffi, gwaith crefft, a chynnwys cymdeithasau gwirfoddol lleol ac Eglwysi a Chapeli yn hyn.
Gweinyddu a Rheoli'r Ganolfan
• Cadw ffeiliau unigol ar glientau, a ddylai gynnwys ffurflen gais, cynllun gofal, Asesiadau Risg, ffurflenni adolygu ac unrhyw wybodaeth arall yn ymwneud â'r client, a'u diweddaru'n rheolaidd.
• Ymgyfarwyddo a chydymffurfio a holl bolisiau'r adran.
• Sicrhau y dylynir yr egwyddorion a gynhwysir yn y llyfryn Iechyd a Diogelwch yn y
• Gwaith, cofnodi damweiniau yn y Llyfr Damweiniau a chwblhau'r ffurflenni damwain
• briodol ar gyer y Swyddfa rhanbarth.
• Sicrhau y cwblheir Taflenni Amser yn wythnosol ac y dychwelir hwy i'r swyddfa perthnasol, gan roi manylion am wyliau a dyddiau o waeledd.
• Archebu cyflenwadau ar gyfer te prynhawn, gan gadw o fewn y gyllideb flynyddol.
• Archebu dodrefn ag offer gan gadw o fewn y gyllideb flynyddol,yn absennoldeb y Goruchwyliwr.
• Cynorthwyo`r Goruwchwyliwr I rhestru yn flynyddol yr holl ddodrefn a gosodion a chyfrannu at baratoi'r amcangyfrifon blynyddol.
• Sicrhau yr hebryngir y clientau i'r Ganolfan ac oddi yno pan deimlir bod angen hyn.
• Pan fydd argyfwng neu dywydd gwael, bydd gan Goruchwyliwr/Goruwchwyliwr Cynorthwyol yr hawl i gau'r Ganolfan a sicrhau y cludir y clientau adref.
• Pan yn berthnasol, bydd y Goruchwyliwr Cynorthwyol yn arolygu gweinyddiad a diogelwch y gegin.
• Sicrhau fod rheolwr yr Uned Breswyl a Dydd yn ymwybodol o unrhyw faterion a all effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir .
• Cofrestru gyda'r Cyngor Gofal yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
Goruchwylio Staff • Ymgymryd a dyletswyddau a chyfrifoldebau rheoli staff y Ganolfan drwy roi arweiniad ac esiampl yn absennoldeb y Goruwchwyliwr. • Sicrhau bod y staff yn derbyn goruchwyliaeth a hyfforddiant perthnasol yn absennoldeb y Goruwchwyliwr.
• Sicrhau bod holl aelodau'r staff yn bresennol ar amser ac yn gwneud eu gwaith yn gydwybodol bob amser.
• Sicrhau bod y Ganolfan a'r gegin (os yn berthnasol) yn rhedeg yn esmwyth, er budd y defnyddwyr.
• Sicrhau bod yn gyfarwydd a dylestwyddau gweinyddol y Goruchwyliwr er mwyn dirprwyo adeg gwyliau neu absenoldeb oherwydd gwaeledd.
• Pan fydd aelodau'r o'r staff ar wyliau a/neu'n wael, trefnu staff rhyddhau yn eu lle ar gyfer y Ganolfan, a lle bo hynny'n briodol, staff y gegin.
• Cymerir prydau gyda'r clientau, ac fe'u darperir yn ddi-dâl fel rhan o'r dyletswydd.
• Gweithredu cynllun gwerthuso y Cyngor er mwyn sicrhau datblygiad staff.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin Amgylchiadau arbennig -
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr