Gwasanaethau Byw â Chymorth a Gweithiwr Cymorth Cartref
Dyddiad cau 23/01/2025
Cyflogwr
Adferiad Recovery
Lleoliad
Caerdydd
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£12.10 yr awr
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae Adferiad Recovery yn darparu ymateb hyblyg a chydlynol i’r amgylchiadau eithriadol mae pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, defnydd sylweddau a materion eraill cysylltiedig sy’n cyd-ddigwydd yn eu hwynebu. Mae pobl sy’n agored i niwed sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth angen cefnogaeth gyson a di-dor i sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu gyda gwasanaethau iechyd a llesiant hanfodol – ac i’w hatal rhag mynd yn ddifreintiedig ac ynysig.
Oriau: Oriau Contract amrywiol ar gael Cyflog: £12.10 yr awr gyda Thaliadau ychwanegol am oriau anghymdeithasol: penwythnosau; Gwyliau Banc
Lleoliad: Caerdydd
Pwrpas y Rôl:
Cyfle Adferiad newydd yng Nghaerdydd, sef Darparu Gofal Cartref Personol a Chymorth i Bobl sy’n profi afiechyd meddwl a all fod ag ystod o anawsterau cymdeithasol, corfforol a chamddefnyddio sylweddau ac anawsterau dysgu. Mae’r gwasanaeth byw â chymorth hwn yn fodel Craidd a Chlwstwr lle mae gan bobl denantiaethau unigol mewn bloc neu glwstwr o fflatiau gyda phob person yn derbyn pecyn gofal a chymorth unigol. Bydd y gwasanaeth byw â chymorth hwn yn y gymuned yn cefnogi agenda atal ac ailalluogi a’r mentrau llesiant a nodir ym mholisïau Llywodraeth Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Y dyddiad cyfweld arfaethedig ar gyfer y rôl hon yw 30/01/2025
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Mae Adferiad Recovery yn croesawu ceisiadau gan bawb sydd â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithle. Mae’n rhaid i bob cyflogai ymddwyn yn gynhwysol i annog, hyrwyddo, ac i feithrin ein gwerthoedd (megis cadarnhau hawliau ac amrywiaeth diwylliannol).
Wrth weithio tuag at ddod yn sefydliad sy’n Cadarnhau Hawliau, rydym yn weithredol yn annog ceisiadau gan bobl ble mae Manyleb y Person yn galw am gymhwyster neu brofiad penodol, ond byddwn yn ystyried hepgor y gofynion hyn os bydd ymgeisydd na all eu cyflawni oherwydd anabledd, ond sydd yn gallu dangos y byddent yn gallu perfformio yn dda yn y swydd ac yn bodloni’r meini prawf mewn agweddau eraill. AM FWY O WYBODAETH, MANYLEB Y PERSON LLAWN AC AM SUT I WNEUD CAIS, EWCH I’N GWEFAN OS GWELWCH YN DDA: https://adferiadrecovery.peoplehr.net/Pages/JobBoard/Opening.aspx?v=269699b4-d037-4aa5-8c73-e5a9f9e6983d Os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad i’r wybodaeth hon, neu os hoffech ei gael mewn fformat arall, yna cysylltwch â’n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org os gwelwch yn dda.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr