Gweinyddwr- Gwasanaethau Oedolion Swydd-ddisgrifiad Ynglŷn â'r rôl: Cynorthwyo i ddarparu cymorth gweinyddol effeithlon ac effeithiol i dimau gweithredol a
chymorth o fewn Gwasanaethau Oedolion. Mae'r rôl yn amrywiol ac yn ddiddorol gyda ffocws arbennig ar gefnogi'r Tîm Ailalluogi 18.5 awr yr wythnos a'r oriau sy'n weddill wedi'u neilltuo i gefnogi timau gweithredol eraill o fewn Gwasanaethau Oedolion. Bydd gofyn i chi wneud gwaith llanw yn y swyddfa bob wythnos ar sail rota a byddwch yn gweithio'r diwrnodau eraill sy'n weddill gartref. Beth fyddwch chi'n ei wneud: *Ffordd ddymunol, proffesiynol ac empathig wrth ddelio â chydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd. *Ymrwymiad i ymgymryd ag unrhyw gymhwyster/hyfforddiant sy'n berthnasol i'r swydd hon. *Sgiliau gweinyddol a rhifedd da ac yn gymwys i ddefnyddio pecynnau TG Office. *Y gallu i aml-dasgio, blaenoriaethu a diwallu dyddiadau cau gydag agwedd hyblyg tuag at eich gwaith. *Y gallu i weithio fel rhan o dîm. *Dealltwriaeth glir o bwysigrwydd cyfrinachedd. Beth fyddwch chi'n ei wneud: *Cydlynu, mynychu a chymryd nodiadau/cofnodion ystod o gyfarfodydd, a all gynnwys cymorth i Wasanaethau Oedolion mewn perthynas â'r agenda diogelu, cynhyrchu a dosbarthu cofnodion, yn ôl yr angen. *Cynnal a diweddaru ystod o systemau gwybodaeth electronig/llaw a chynorthwyo gyda choladu unrhyw ffurflenni ystadegol. *Archebu deunydd ysgrifennu, cyhoeddiadau ac offer yn unol â pholisïau a gweithdrefnau caffael. *Ymgymryd â gwaith prosiect ar sail "tasg a gorffen" o dan gyfarwyddyd y Goruchwylydd. *Cysylltu â sefydliadau eraill gan gynnwys asiantaethau statudol, annibynnol a gwirfoddol. *Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa a switsfwrdd pan fo angen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Safonol y DBS.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr