Parhaol, Rhan Amser - 16 awr GRADD 5 - £26,824 pro rata Gwir gyflog ar gyfer 16 awr - £11,599 Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Gweithiwr Gofal Adsefydlu'n rhan o'i Garfan Adsefydlu. Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Gofal brwdfrydig i ymuno â'r garfan yn Nhŷ Elái, Cwm Rhondda, CF40 1NY.
Mae'r gwasanaeth Adsefydlu yn fenter waith ar y cyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol, Arweinydd Carfan a charfan hyfforddedig iawn o staff gofal cymdeithasol.
Byddwch chi'n rhoi cymorth i unigolion drwy gyflwyno rhaglen gymorth hyd at 6 wythnos, er mwyn darparu cyfleoedd i wella o afiechyd ac atal penodau o ddirywiad iechyd lle bo modd. Weithiau ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, gall pobl golli hyder a phoeni am eu diogelwch a'u gallu i ymdopi gartref. Mae'r Gwasanaethau Adsefydlu yn tawelu meddwl unigolion ac mae'n eu hannog i gynnal sgiliau byw sylfaenol, i'w hail-ddysgu neu i'w dysgu. Mae'n rhoi cymorth i bobl gyflawni eu llawn botensial ac i atal neu leihau'r angen i ddefnyddio gwasanaethau yn y gymuned dros dymor hirach.
Mae'r gwasanaeth adsefydlu'n gweithio ledled ardaloedd Rhondda Cynon Taf.
Mae gan y Garfan bwyslais ar waith aml-asiantaeth a bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r maes iechyd a nifer o asiantaethau eraill.
O'ch penodi, byddwch chi'n dod â sgiliau cyfathrebu da i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolion rydym ni'n gweithio gyda nhw. Yn rhan o'r rôl, bydd gofyn rhoi cymorth ymarferol ac anogaeth i unigolion sy'n dilyn rhaglen gymorth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael sesiynau 1:1 rheolaidd, bydd yn cael ei arsylwi o ran arferion gwaith, a hefyd yn rhan o Gyfarfodydd y Garfan.
Mae gyda ni Ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i gynhalwyr (gofalwyr) gynnal a datblygu eu sgiliau.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gwasanaethau Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'n elwa ar lwybr gyrfa gwell a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith'.
O gael eich penodi, bydd gofyn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Am ragor o wybodaeth ac am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Adele Jones neu Cheryl Doster ar (01443) 425070.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Cyfleoedd datblygu gyrfa, ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Cerdyn Vivup er mwyn cael gostyngiadau ar gannoedd o gynnyrch a gwasanaethau.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.