Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Malcolm Vaughan ar 01248 683023 / malcolmvaughan@gwynedd.llyw.cymru
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD CAU: 10:00 O'R GLOCH, DYDD IAU, 03/07/2025 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd (2).pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu gweithio dan bwysau a cyrraedd terfyn amser.
Gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn unigol
Yn ymroddedig tuag at cyflawni canlyniadau.
Yn ymroddedig i ymarfer gwrth gormesol a gwrth gwahaniaethau
Presenoldeb a chofnod iechyd da
Parodrwydd i weithio'n hyblyg pan fo angen
Gallu i reoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
Gallu i weithio mewn tîm
Trwydded Yrru lawn a glân
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol cymwysterau addysgol at 'lefel A' neu leiafswm o dair blynedd o brofiad mewn maes perthnasol
Amrywiaeth o brofiadau hyfforddiant mewn perthynas a gweithio gyda rhieni
Ychydig o wybodaeth o'r Sustem Cyfiawnder Ieuenctid
Dymunol -
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc
Sgiliau asesu da
Profiad o weithio gyda phobl i ddatblygu sgiliau hyder
Gallu wedi ei brofi i weithio gyda rhieni a plant i effeithio newid
Gallu i gynnal cofnodion cywir ac amserol neu waith wedi ymgymryd ag yn defnyddio systemau adrodd cyfrifiadurol a phapur
Profiad o rhedeg gwaith grŵp
Gallu i weithio dan bwysau a delio gyda galwadau anghyson, yn cynnwys gweithio i derfynau amser llym
Profiad o waith aml asiantaethol
Dymunol Profiad eang o weithio gyda rhieni a theuluoedd
Profiad o weithio o fewn y Sustem Cyfiawnder Troseddol Ieuenctid
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Sgiliau cyfathrebu effeithiol
Sgiliau T.G.
Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas a materion rhianta, yn cynnwys ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a beth sy'n gweithio
Dymunol Dealltwriaeth o ymddygiad troseddol a'r ffactorau sydd yn cyfrannu at troseddu ac ail-droseddu
Gwybodaeth o raglenni ymddygiad troseddol
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Prif egwyddor y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yw atal pobl ifanc rhag troseddu ac ail-droseddu yng Ngwynedd a Môn. Fel y cyfryw, mae'n gyfrifol am oruchwylio, cefnogi a monitro y pobl ifanc hynny yng Ngwynedd a Môn sy'n dod i gysylltiad, neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad gyda'r sustem cyfiawnder troseddol ffurfiol.
• Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am rheoli achosion sydd yn agored i'r tîm ataliol. Bydd y gweithiwr yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith sydd yn mynd i'r afael ac anghenion pobl ifanc sydd yn gymwys i ymyrraeth ataliol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Goruchwyliaeth/Arweiniad: Gan rheolwr gweithredol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Prif ddyletswyddau • Derbyn cyfeiriadau gan asiantaethau eraill, megis yr Heddlu, Gwasanaethu Cymdeithasol ac Addysg, gan wneud yn siŵr fod y rhieni a'r plant wedi rhoi caniatâd i'r cyfeiriad.
• Cwblhau ONSET ac ASSET, (offer Technoleg Gwybodaeth y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid), i wneud asesiad manwl o'r ffactorau risg troseddu sydd yn gysylltiedig â phobl ifanc.
• Trosglwyddo gwybodaeth o unrhyw asesiad fewn i raglen effeithiol ac arloesol.
• Trafod a chyfeirio plant/teuluoedd i'r gwasanaethau priodol, bod hynny yn wasanaeth cyhoeddus neu'n wirfoddol.
• Sicrhau bod cofnodion achos yn cael eu bwydo i mewn i Careworks yn rheolaidd a bod y cynnwys yn gywir ac yn adlewyrchu'r holl gyswllt mewn perthynas â'r person ifanc.
• I weithio a mentora'r person ifanc sydd yn agored i'r gwasanaeth ataliol, bod hynny drwy gyfeiriadau neu'r sustem biwro, gyda'r bwriad o sicrhau cydweithrediad ac atal ymddygiad troseddol.
• Pan ofynnir, rhaid darparu adroddiadau/gwybodaeth ar gyfer cyfarfodydd Paneli Ataliol a Biwro, yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid - bydd disgwyl i adroddiadau Ataliol fod o safon uchel.
• I weithio mewn partneriaeth gyda rhieni/gofalwyr ac asiantaethau proffesiynol eraill er mwyn galluogi newid mewn ymddygiad troseddol/gwrth gymdeithasol y person ifanc.
• Rheoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• I fod yn hyblyg, er mwyn ymateb i anghenion yr unigolyn a'i deulu. Gall hyn olygu gweithio tu allan i oriau gwaith, os ofynnir gan eich rheolwr llinell.
• Datblygu prosiectau yn unol â'r strategaeth ataliol. Bydd disgwyl cydweithio yn agos a'r gwasanaethau cefnogi ieuenctid a'r darparwyr presennol sydd yn ymdrechu i weithio ar y rhesymau tu ôl ymddygiad troseddol a gwrth gymdeithasol ymysg pobl ifanc.
• I gefnogi plant/teuluoedd drwy'r broses ataliol a biwro, yn benodol cyfeiriadau, asesiadau, ymyrraeth ac adolygiadau gan y panel ataliol, gan wneud yn siŵr ei bod yn rhan o'r broses.
• Gweithredu fel cynrychiolydd y sustem rota ddyletswydd GCI, mynychu dyletswyddau oedolyn priodol ac yn y llys remand pan fo angen.
• I gymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm rheolaidd a sesiynau goruchwylio unigol.
• I fod yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol a chymryd rhan mewn rhaglenni datblygiadol a hyfforddant a drefnir gan y GCI.
• Hyrwyddo ac ymddwyn mewn ffordd gwrth-wahaniaethol tuag at gydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth.
• I fod yn gyfrifol mewn perthynas â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gweithle ac i ymateb i reolau tân
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Y gallu i weithio oriau hyblyg yn angenrheidiol i'r swydd yma, hefyd yn cynnwys gweithio penwythnosau a gyda'r nos.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr