Ydych chi eisiau gyrfa fuddiol a gwneud gwahaniaeth i bobl ddiamddiffyn yn eich ardal leol?
Trwy weithio yn Sector Gofal Cyngor Conwy, gallwn gynnig mwy na swydd yn unig i chi. Gallwn roi cyfle i chi gael swydd ystyrlon a phwrpasol gyda chefnogaeth tîm cyfeillgar a fydd yn eich helpu i gyflawni eich llawn botensial.
Mae Gweithwyr Cymorth yn cael effaith anferth ar fywydau'r bobl maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd ag anabledd rŵan hyn.
Rydym yn cefnogi pobl sydd ag anableddau ar draws Conwy i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain, i gael mynediad at weithgareddau cymunedol neu i'w cefnogi yn y Gwasanaethau Dydd. Mae hynny'n golygu gwrando arnynt, deall beth maent yn eu hoffi, a'u cefnogi i wneud penderfyniadau a chyflawni beth maent am eu cyflawni.
Os ydych yn rhannu'r gwerthoedd hyn rydym am glywed gennych!
- Helpu pobl i fyw'r bywyd maent am ei fyw
- Meithrin perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a diddordeb gwirioneddol mewn pobl eraill.
- Helpu eraill i deimlo'n dda
- Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau
- Rydych yn dda am ysgogi pobl eraill
- Rydych yn barchus tuag at bobl eraill
- Mae gennych synnwyr digrifwch gwych
- Nid ydych yn mynd i banig ac rydych yn bwyllog mewn sefyllfaoedd anodd
Mae ein preswylwyr yn unigolion ac yn haeddu cael eu trin felly.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl, Dysgwyr, a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae angen safon dda o Saesneg llafar er mwyn cyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth.
Mae gennym nifer o swyddi gwag ar draws ardal Conwy.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Katherine Owen, Rheolwr Tîm ( katherine.owen1@conwy.gov.uk / 01492 577662)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.