Mae West Lodge yn gartref preswyl newydd i blant, wedi'i leoli yn Llanisan-yn-Rhos, Hwlffordd. Yma byddwn yn darparu preswylfa dros dro i bobl ifanc 10-18 mlwydd oed sydd wedi cael amryfal brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod.
Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth profiadol i'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth dynamig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar lefel weithredol. Yn y rôl hon, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb dynodedig am oruchwylio shifftiau yn West Lodge yn unol â rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae'r tîm wedi'i drefnu ar sail rota flynyddol, gan gynnwys gweithio gyda'r nos, dros nos ac ar benwythnosau i sicrhau bod West Lodge yn parhau i gynnig amgylchedd cynnes, diogel, croesawgar, hapus, cyfeillgar a meithringar, a hynny'n gyson. Byddai disgwyl hyblygrwydd.
Mae buddion yn cynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael o hyd at 31 diwrnod
- Lwfans ychwanegol ar gyfer gweithio ar y penwythnos ac yn ystod y nos
- Aelodaeth o gynllun pensiwn buddion diffiniedig 'cyfartaledd gyrfa' llywodraeth leol
- Amrediad eang o adnoddau i gynnal eich iechyd a'ch llesiant, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol proffesiynol mewnol a mynediad at wasanaethau cwnsela
- Cynllun tâl mamolaeth a thadolaeth galwedigaethol hael, yn ogystal â budd-daliadau statudol
- Cynlluniau aberthu cyflog ar gyfer prynu car neu feic
Er mwyn cydymffurfio â gofynion Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru, rhaid i ymgeiswyr fod yn 22 mlwydd oed o leiaf a meddu ar NVQ 3 mewn Gofalu am Blant neu Blant a Phobl Ifanc, neu fod yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn.
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol neu os ydych am drafod y rôl, cysylltwch â Sharon Mathias: Sharon.mathias@pembrokeshire.gov.uk
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.