(Cyflog Gradd 5 nawr yn: £26,403 - £27,694 pro rata + cyfraniad o 16%: £4,224.48 -4,431.04 am oriau anghymdeithasol a gweithio ar benwythnosau a 64 o oriau cysgu dros nos y flwyddyn, sef cyfanswm o £2,608.64)
 - Taliad untro ychwanegol o £3,000 fel croeso euraid.
Mae Cartref Preswyl Plant West Lodge wedi'i leoli ger pentref hardd Llanisan-yn-Rhos, Hwlffordd. Rydym yn darparu cartref dros dro diogel, meithringar a chefnogol i bobl ifanc 7 ag 17 oed sydd wedi profi amrywiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. 
Rydym yn chwilio am 
weithwyr cymorth profiadol a thosturiol i ymuno â'n tîm ymroddedig. Yn y rôl hon, byddwch yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth deinamig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn unol â rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru. 
Mae ein tîm yn gweithio ar rota flynyddol, gan gynnwys gyda'r nos, dros nos ac ar y penwythnos, i sicrhau bod West Lodge yn parhau i gynnig amgylchedd cynnes, croesawgar a hapus yn gyson. Mae hyblygrwydd yn hanfodol er mwyn cynnal y safon uchel o ofal y mae ein preswylwyr yn ei haeddu. 
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:  - Gwyliau blynyddol hael o hyd at 31 o ddiwrnodau
- Lwfansau ychwanegol am weithio ar benwythnosau a gyda'r nos
- Aelodaeth o gynllun pensiwn â buddion diffiniedig ar sail 'cyfartaledd cyflog gyrfa' llywodraeth leol
- Adnoddau iechyd a llesiant helaeth, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chwnsela mewnol
- Tâl mamolaeth a thadolaeth galwedigaethol hael, yn ogystal â buddion statudol
- Cynlluniau aberthu cyflog ar gyfer prynu car neu feic
Gofynion hanfodol:Er mwyn bodloni rheoliadau Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru, rhaid i ymgeiswyr fod yn 22 oed o leiaf a bod ag NVQ Lefel 3 mewn Gofalu am Blant neu Blant a Phobl Ifanc - neu fod yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn. 
Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: 
Sharon Mathias - Sharon.mathias@pembrokeshire.gov.uk Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person. Gwiriadau Cyflogaeth Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.  
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag. 
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag. DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau. 
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor. 
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol  - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk 
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg