Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Canolfan Riviere a lleoliadau amrywiol ar draws Conwy
Mae'n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais er mwyn cael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os na fyddwch chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer i gael cyfweliad.
Byddwch yn cefnogi oedolion diamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain ac allan yn y gymuned, i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth, hyrwyddo dewis, a chaniatáu iddynt leisio eu barn a theimlo'n rhan o'u cymuned.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn creu trefn a chysylltiadau a byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu.
Bydd angen i chi ddeall fod rhai pobl yn cyfathrebu eu teimladau drwy eu hymddygiad. Rydym yn chwilio am unigolion dyfeisgar sy'n agored i ffyrdd newydd o weithio gydag agwedd 'gallu gwneud' cadarnhaol.
Bydd angen i chi allu ysgogi a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a diddordebau arbennig sy'n cefnogi eu hiechyd a lles megis; cael mynediad at glybiau a gweithgareddau cymdeithasol a chwaraeon, cefnogi unigolion i gael mynediad at eu cymuned leol, dysgu sgiliau newydd fel dysgu sut i ddefnyddio'r bws.
Gall dyletswyddau eraill gynnwys cynorthwyo unigolion na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion gofal personol eu hunain, gall hyn gynnwys codi a symud yn gorfforol.
Rydym yn chwilio am unigolyn tosturiol sy'n ddyfeisgar ac yn gweithio'n dda ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm. Mae'n rhaid cael gwydnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac mae'n rhaid gallu dangos eich bod yn gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol.
Bydd gofyn i chi weithio rhywfaint o oriau anghymdeithasol megis ar benwythnosau a chyda'r nos, ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Byddwch yn ymgymryd â rhaglen gynefino ac yn gallu mynychu hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rhoi'r cyfleoedd gorau i'r rhai y byddwch chi'n gweithio gyda nhw i fyw bywydau llawn.
Gall gweithwyr cefnogi wneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r rhai y maent yn eu cefnogi, felly os ydych chi'n chwilio am yrfa werthfawr a boddhaus ac eisiau gwybod mwy, ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Hayley Wheeler Rheolwr Tîm 01492 577660 Hayley.wheeler@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr