Os byddwch yn gweithio yn Sector Gofal Cyngor Conwy, gallwn gynnig mwy na dim ond swydd ofalu i chi. Bydd gennych y cyfle i gael gyrfa ystyrlon, bwrpasol, gyda chefnogaeth gan dîm cyfeillgar a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
Mae Gweithwyr Cymorth yn cael effaith anferth ar fywydau'r bobl maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn rŵan hyn.
Rydym yn cefnogi pobl ar draws Conwy i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain, yn y gymuned, gan helpu gyda sgiliau bywyd, apwyntiadau a'u cefnogi i adennill a chynnal sgiliau sy'n eu galluogi i fod yn rhan o'u cymuned.
Mae hynny'n golygu gwrando arnynt, deall beth maent yn eu hoffi, a'u cefnogi i wneud penderfyniadau a chyflawni beth maent am eu cyflawni.
Os ydych yn rhannu'r gwerthoedd hyn rydym am glywed gennych!
- Helpu pobl i fyw'r bywyd maent am ei fyw.
- Meithrin perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a diddordeb gwirioneddol mewn pobl eraill.
- Helpu eraill i deimlo'n dda.
- Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau
- Rydych yn dda am ysgogi pobl eraill
- Rydych yn barchus tuag at bobl eraill
- Mae gennych synnwyr digrifwch gwych
- Nid ydych yn mynd i banig ac rydych yn bwyllog mewn sefyllfaoedd anodd
Mae ein preswylwyr yn unigolion ac yn haeddu cael eu trin felly. Does dim angen profiad i wneud cais gan y byddwch yn derbyn rhaglen sefydlu lawn ac rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau sy'n cynnwys:
- Rota dreigl pythefnos o hyd
- Cyfraddau cyflog da a chyfraddau gwell ar gyfer gweithio fin nos ac ar benwythnosau
- Hyfforddiant a chyrsiau cymwysterau AM DDIM
- Gallu symud ymlaen i nifer o swyddi gofal eraill o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl, Dysgwyr, a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae angen safon dda o Saesneg llafar er mwyn cyfathrebu gydag unigolion.
Bydd angen gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swyddi hyn.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Hayley Wheeler, Rheolwr Tîm ( Hayley.wheeler@conwy.gov.uk / 01492 577660)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.