Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Conwy
Byddwch yn cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a chorfforol i gael dewis, rheolaeth a llais yn ogystal â'u helpu i ddatblygu sgiliau i'r dyfodol.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu gweithgareddau llawn dychymyg, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth fod rhai pobl yn cyfathrebu eu teimladau gydag ymddygiad. Rydym yn chwilio am y rhai sydd ag ymagwedd 'gallu gwneud' ac sy'n gallu addasu eu sgiliau.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn ein Gwasanaethau Dydd ac allan yn y gymuned. Byddwch yn gallu annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddiddordebau a gweithgareddau arbennig sy'n cefnogi eu hiechyd a'u lles, fel mynd am dro, cymryd rhan mewn cwisiau, dysgu sgiliau TG, nofio, pobi, coginio, ffotograffiaeth a chrefftau.
Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo unigolion na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain a gall hynny gynnwys codi a chario.
Fel gweithiwr cefnogi Gwasanaeth Dydd bydd arnoch chi angen meddwl agored a chreadigrwydd, gan y byddwch chi'n cynorthwyo pobl i gyrraedd nodau, yn ogystal â chynorthwyo'r tîm i ddarparu profiad diogel, gofalgar ac addysgol ar gyfer pobl ag anableddau, fel eu bod yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
Mae'n rhaid cael gwytnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac felly mae gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol yn hollbwysig.
Efallai y bydd gofyn i chi weithio rhywfaint o oriau anghymdeithasol megis ar benwythnosau a gyda'r nos, ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych chi gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Byddwch yn cwblhau rhaglen gyflwyno ac yn gallu gwneud hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi roi'r cyfleoedd gorau posibl i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a Chymraeg yn ddymunol.
Bydd penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar 2 eirda boddhaol a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os ydych chi'n chwilio am yrfa wobrwyol a boddhaus ac arnoch chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Rebecca Humphreys i gael sgwrs anffurfiol ar 01492576653 / 07753420240
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Rebecca Humphreys, Rheolwr Tîm ( Rebecca.Humphreys@conwy.gov.uk / 01492 576653)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr