Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Yn y Gymuned
Y cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau eich gyrfa mewn gwaith cymorth yw eich rhinweddau naturiol.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion brwdfrydig ac ymroddedig sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag amrywiaeth o anghenion. Byddwch yn helpu i gefnogi plant/pobl ifanc a'u teuluoedd ar adegau o anhawster a straen, a gweithio gyda theuluoedd i atal plant rhag cael eu lletya neu eu hadsefydlu gartref yn gyflym. Efallai y gofynnir i chi hefyd hwyluso cyswllt rhwng plant a'u rhieni.
Bydd disgwyl i chi ddatblygu a gweithredu ystod o weithgareddau i ddiwallu anghenion y person ifanc fel rhan o gynllun cymorth cyffredinol.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ddechrau, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â'r gwerthoedd personol cywir ac yna gallwch hyfforddi tra'ch bod yn gweithio. Mae llawer o gyfleoedd i symud ymlaen mewn gyrfa yn ein gwasanaeth, oherwydd gallwch ennill cymwysterau, ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol neu ymgymryd â rolau ar gyfer datblygiad personol.
Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm wrth i ni dyfu.
Fel y gwyddoch, mae meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r unigolion yr ydych yn eu cefnogi yn rhan hanfodol o fod yn weithiwr cymorth gwerthfawr. Felly, mae cael natur gyfeillgar a chefnogol gyda golwg gadarnhaol ar fywyd yn hanfodol.
Gall ein rôl gweithiwr cymorth roi oriau hyblyg i chi gyd-fynd â'ch bywyd, felly mae gyrfa mewn gwaith cefnogi yn yrfa ag amrywiaeth go iawn.
Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio'n hyblyg i gwrdd ag anghenion y bobl ifanc. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Beth fydd y swydd yn ei olygu?
Byddwch yn gallu cynorthwyo plant a phobl ifanc i leisio eu barn a'u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol tymor hwy.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu sesiynau llawn dychymyg gyda'r person a fydd hefyd yn ei helpu i ddatblygu sgiliau.
Byddwch yn gallu deall bod rhai plant yn cyfathrebu eu teimladau ag ymddygiadau a byddwch yn gwneud hynny bod ag agwedd 'gallu gwneud' i addysgu'r plentyn i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gweithio mewn tîm yn allweddol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm allan yn y gymuned neu yng nghartref y teulu. Byddai angen i chi allu ysgogi a chefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ystod eang o ddiddordebau a gweithgareddau arbennig sy'n cefnogi eu hiechyd a'u lles.
Fel gweithiwr cymorth byddai angen i chi ddangos gallu i fod yn greadigol a meddwl agored wrth i chi gynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau, tra hefyd yn helpu'r tîm i ddarparu profiad dysgu diogel, gofalgar i bobl ifanc.
Mae gwytnwch yn hanfodol yn ein sector gofal. Mae gennym ni i gyd ein dyddiau da a drwg ac mae'r gallu i aros yn dawel a chefnogol yn ansawdd hanfodol y bydd angen i chi ei ddangos i weithio gyda ni
Bydd gofyn gweithio rhai oriau anghymdeithasol megis penwythnosau a gyda'r nos ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych gydbwysedd cartref/gwaith bywyd.
Os yw hon yn yrfa yr ydych wedi ei hystyried ac yr hoffech wybod mwy, ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sally Howatson, Rheolwr Adran Dros Dro (01492575146 / sally.howatson@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr