Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Y cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau eich gyrfa mewn gwaith cymorth yw eich rhinweddau naturiol.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion brwdfrydig ac ymroddedig sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag amrywiaeth o anghenion. Byddwch yn helpu i gefnogi plant/pobl ifanc a'u teuluoedd ar adegau o anhawster a straen, a gweithio gyda theuluoedd i atal plant rhag cael eu lletya neu eu hadsefydlu gartref yn gyflym. Efallai y gofynnir i chi hefyd hwyluso cyswllt rhwng plant a'u rhieni.
Bydd disgwyl i chi ddatblygu a gweithredu ystod o weithgareddau i ddiwallu anghenion y person ifanc fel rhan o gynllun cymorth cyffredinol.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ddechrau, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â'r gwerthoedd personol cywir ac yna gallwch hyfforddi tra'ch bod yn gweithio. Mae llawer o gyfleoedd i symud ymlaen mewn gyrfa yn ein gwasanaeth, oherwydd gallwch ennill cymwysterau, ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol neu ymgymryd â rolau ar gyfer datblygiad personol.
Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a brwdfrydig i ymuno ân tîm wrth i ni dyfu.
Fel y gwyddoch, mae meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r unigolion yr ydych yn eu cefnogi yn rhan hanfodol o fod yn weithiwr cymorth gwerthfawr. Felly, mae cael natur gyfeillgar a chefnogol gyda golwg gadarnhaol ar fywyd yn hanfodol. Gall ein rôl gweithiwr cymorth roi oriau hyblyg i chi gyd-fynd âch bywyd, felly mae gyrfa mewn gwaith cefnogi yn yrfa ag amrywiaeth go iawn. Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio'n hyblyg i gwrdd ag anghenion y bobl ifanc. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Beth fydd y swydd yn ei olygu?
Byddwch yn gallu cynorthwyo plant a phobl ifanc i leisio eu barn a'u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol tymor hwy.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu sesiynau llawn dychymyg gyda'r person a fydd hefyd yn ei helpu i ddatblygu sgiliau.
Byddwch yn gallu deall bod rhai plant yn cyfathrebu eu teimladau ag ymddygiadau a byddwch yn gwneud hynny bod ag agwedd 'gallu gwneud' i addysgu'r plentyn i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gweithio mewn tîm yn allweddol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm allan yn y gymuned neu yng nghartref y teulu. Byddai angen i chi allu ysgogi a chefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ystod eang o ddiddordebau a gweithgareddau arbennig sy'n cefnogi eu hiechyd a'u lles.
Fel gweithiwr cymorth byddai angen i chi ddangos gallu i fod yn greadigol a meddwl agored wrth i chi gynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau, tra hefyd yn helpu'r tîm i ddarparu profiad dysgu diogel, gofalgar i bobl ifanc.
Mae gwytnwch yn hanfodol yn ein sector gofal. Mae gennym ni i gyd ein dyddiau da a drwg ac mae'r gallu i aros yn dawel a chefnogol yn ansawdd hanfodol y bydd angen i chi ei ddangos i weithio gyda ni
Bydd gofyn gweithio rhai oriau anghymdeithasol megis penwythnosau a gyda'r nos ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych gydbwysedd cartref/gwaith bywyd.
Os yw hon yn yrfa yr ydych wedi ei hystyried ac yr hoffech wybod mwy, ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Wendy Carpenter, Rheolwr Tim (01492 574691 / wendy.carpenter@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymnol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr