Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd (CNGG)
G07 £30,559 i £32,115
37 awr yr Wythnos, Dros Dro Mawrth 2027
Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd
Mae Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd (CNGG) yn dymuno penodi person proffesiynol, ymroddedig a gofalgar o fewn gwasanaethau atal ar gyfer teuluoedd yn Wrecsam. Bydd y Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd yn ymgymryd â phob agwedd ar gymorth i deuluoedd ac yn cysylltu â theuluoedd sy'n disgwyl cael swyddog CNG wedi ei neilltuo iddynt. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd i hyrwyddo rhianta cadarnhaol, annibyniaeth, perthnasoedd iach a chadw plant yn ddiogel.
Bydd gennych gymwysterau perthnasol, naill ai FfCCh neu NVQ3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant) neu gymwysterau Gofal Plant perthnasol eraill neu allu ac ymrwymiad i gyflawni'r FfCCh Lefel 3 o fewn amserlen benodol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jason Leen - Rheolwr Tîm CNGG ar 01978 295373 neu
I gael ffurflenni cais a manylion eraill, ffoniwch linell swyddi 24 awr Adnoddau Dynol ar 01978 292992, neu e-bostiwch HRServiceCentre@wrexham.gov.uk
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithredu cynllun o warantu cyfweliad i ymgeiswyr â chymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym yn ymrwymedig at Gyfle Cyfartal.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.