Ydych chi eisiau'r cyfle i helpu unigolion a'u teuluoedd i gael mynediad at gymorth, gan hybu byw'n annibynnol?
Hoffech chi helpu unigolion i reoli eu bywydau bob dydd yn well?
Ydych chi'n egnïol ac yn awyddus i gael gyrfa yn cefnogi unigolion a'u teuluoedd ag anghenion cymhleth?
Os felly, efallai mai dyma'r cyfle i chi?
Rydym yn chwilio am Unigolion a fyddai'n cefnogi gweithredu cynlluniau gofal gwaith cymdeithasol ar gyfer unigolion ag anghenion lles meddwl cymhleth, mynd i'r afael â'u problemau, lleihau risgiau a chyflawni annibyniaeth yn llwyddiannus.
Byddech yn rhan o dîm sy'n gwneud i'r pethau hyn ddigwydd ac yn cael eich cefnogi a'ch goruchwylio'n agos yn eich gwaith.
Mae'r gwaith yn digwydd ar draws Ceredigion ac mae'n gyfle i ymgymryd â rôl hynod ymarferol o fewn ein tîm cyfeillgar a chefnogol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cysylltwch â niAm wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon e-bostiwch:
Simon.Thomas@ceredigion.gov.ukNoder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy