Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Yn y Gymuned
Yr oll sydd ei angen arnoch i gychwyn ar eich gyrfa mewn gwaith cefnogi yw eich rhinweddau naturiol
Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc?
Rydym ni'n frwd dros weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella ansawdd bywydau plant a phobl ifanc a'u galluogi i 'fyw'r bywyd gorau posib' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Cyflawnir hyn trwy hyrwyddo a pharchu 'Cymorth Gweithredol', 'Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol', Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn' a 'Lleihau Arferion Cyfyngol'. Bydd rhoi'r unigolyn yng nghanol yr holl gynllunio cymorth a datblygu strategaethau yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau ym mhob agwedd ar eu bywydau dyddiol, adeiladu perthnasoedd cryf gyda'r rhai o'u cwmpas, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithgar o'u cymunedau lleol trwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Rydym yn edrych am bobl sy'n rhannu'r uchelgais hon a'n ffordd ni o weithio - i fod yn feiddgar, yn greadigol ac yn angerddol ac onest ym mhopeth a wnawn.
Mae bob diwrnod yn wahanol yn y maes gofal cymdeithasol. Gall swydd gyda ni fel gweithiwr cefnogi gynnig oriau hyblyg sy'n gweddu o gwmpas eich bywyd, felly mae gyrfa mewn gwaith cefnogi yn yrfa amrywiol iawn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ddechrau arni, does ond angen i chi ddod â'ch gwerthoedd personol ac yna gallwch hyfforddi wrth weithio. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn ein gwasanaeth, gan fod cyfle i chi ennill cymwysterau, ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol neu ymgymryd â swyddogaethau ar gyfer datblygiad personol.
Mae datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r unigolion rydych yn eu cefnogi yn rhan allweddol o fod yn weithiwr cefnogi gwerthfawr. Felly, mae cael natur gyfeillgar, gefnogol gydag agwedd gadarnhaol at fywyd yn hanfodol ac mae angerdd dros gefnogi pobl i fod y gorau gallant yn ganolbwynt i ni!
Beth mae'r swydd yn ei olygu?
Byddwch yn gallu cynorthwyo plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a'u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol mwy hirdymor.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu gweithgareddau llawn dychymyg, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Byddwch yn gallu deall bod rhai plant yn mynegi eu teimladau trwy ddefnyddio ymddygiad o bryder a bydd gennych ymagwedd sy'n credu yn eich gallu i ddysgu'r plant sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gwaith tîm yn allweddol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn y Gwasanaeth Dydd, cymuned leol neu gartrefi teuluol. Ysgogi a chefnogi'r unigolyn i gymryd rhan mewn ystod eang o ddiddordebau arbennig a gweithgareddau sy'n cefnogi eu hiechyd a'u lles megis trampolinio, ymweld âr traeth / parc, cerdded, nofio, pobi / coginio, chwarae gemau, canu a dawnsio, crefftau i enwi rhai.
Gall rhai o'r dyletswyddau eraill gynnwys cynorthwyo plant a phobl ifanc sy'n methu cwrdd yn llawn âu hanghenion gofal personol eu hunain a gallai hyn gynnwys codi a chario.
Fel gweithiwr cefnogi, byddai angen i chi ddangos gallu i fod yn greadigol ac â meddwl agored, gan eich bod yn cynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau, yn ogystal â chynorthwyo'r tîm i ddarparu profiad diogel, gofalgar ac addysgol ar gyfer pobl ag anableddau, fel eu bod yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
Mae'n rhaid cael gwytnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac mae'n rhaid gallu dangos eich bod yn gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol i weithio gyda ni
Bydd gofyn i chi weithio rhywfaint o oriau anghymdeithasol megis ar benwythnosau a chyda'r nos, ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Byddwch yn gallu mynychu hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rhoi'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc fyw bywyd llawn.
Os ydych wedi ystyried hyn fel gyrfa a'ch bod yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol. Emma Edwards ar un ai 07849631358 / 01492
Bydd gofyn i chi gwblhau Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae'r penodiad yn amodol ar 2 eirda boddhaol.
Mae'm yn darparu gwasanaethau 365 diwrnod y flwyddyn yn ystod y dydd, nos ac ar benwythnosau. Rydym felly yn chwilio am unigolion sydd ag agwedd hyblyg at yr oriau gwaith er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Emma Edwards, 07849631358 / 01492 575002, emma.edwards1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol gyda chwsmeriaid yn Gymraeg yn ddymunol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr