Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) yn dymuno recriwtio gweithwyr cefnogi achlysurol i'm Dyletswydd Argyfwng i gydweithio â Gweithwyr Cymdeithasol er mwyn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel sy'n diwallu anghenion plant, pobl ifainc, teuluoedd, etc. Mae'r swydd hon yn un amrywiol, ond mae hi'n ymwneud yn bennaf â phlant a phobl ifainc sydd wedi dod o dan ofal yr awdurdod lleol mewn argyfwng ac sydd angen eu cefnogi tan y diwrnod gwaith nesaf pan fydd y gwasanaethau dydd yn cymryd cyfrifoldeb drostynt. Mae swyddogaethau eraill yn cynnwys darparu cefnogaeth i rieni, gofalwyr, plant a phobl ifainc i'w helpu i gynnal perthynas gadarnhaol ac aros gyda'i gilydd fel teulu.
Yn ddelfrydol, byddai cymhwyster mewn disgyblaeth berthnasol (neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster megis FfCCh L3, Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio) yn ffafriol, ynghyd â pheth profiad. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sy'n gallu dangos bod ganddynt brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifainc ond nad ydynt, o bosibl, yn meddu ar gymhwyster perthnasol fel a ddisgrifiwyd uchod. Mae'm Dyletswydd Argyfwng yn wasanaeth statudol rhanbarthol sy'n cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae'n cwmpasu Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Rydym yn delio â sefyllfaoedd sy'n ymwneud â phobl mewn argyfwng a lle mae angen delio â'r sefyllfa ar unwaith. Bydd gweithwyr cefnogi ar rota ar alw lle byddant yn derbyn taliad o 2.5 awr (20:30-08:30 nosweithiau dyddiau'r wythnos a'r penwythnos, a 08:30-20:30 dyddiau'r penwythnos/gwyliau banc) a chyfradd fesul awr os bydd galw arnynt i wneud darn o waith (am gyfnod hirach na 2.5 awr) o fewn y cyfnod hwnnw o 12 awr.
Gan mai swydd achlysurol yw hon, gallwch ddewis y sifftiau (yn amodol ar argaeledd) sy'n cyd-fynd ag unrhyw ymrwymiadau gwaith/teulu/astudio eraill sydd gennych.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Vicky Valentime, Rheolwr Rhanbarthol EDT, ar 01978 298438 vicky.valentine@wrexham.gov.uk neu Mike Bell, Pennaeth Gwasanaeth EDT ar 01978 298437 mike.bell@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog acmae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.