Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Robert Whitten ar 07973219463
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 03/02/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Gwsanaethau Oedolion.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Yn drefnus ac yn brydlon ym mhob agwedd o'r gwaith.
Y gallu i fod yn hyblyg ac yn barod i ddatblygu syniadau newydd.
Agwedd broffesiynol bob amser wrth ddelio â'r tenantiaid, y staff a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Trwydded Yrru Glân
Dymunol N.V.Q / QCF Lefel 2 mewn Gofal Cymunedol
Cymorth Cyntaf Sylfaenol
Symud a Thrin (Sylfaenol)
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
Profiad o gefnogi a gofalu am bobl ag anabledd dysgu.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Sgiliau cyfathrebu da.
Person amyneddgar, sensitif a phen gwastad wrth ddelio â'r tenantiaid.
Y gallu i greu perthynas dda gydag aelodau eraill o staff a thenantiaid.
Y gallu i ysgrifennu adroddiadau byrion.
Dymunol -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• I sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y tenantiaid yn cael eu cyfarch trwy weithredu eu cynlluniau bywyd unigol.
• I sicrhau bod amgylchedd cyfforddus a glan yn cael ei gynnal yn y cartref. Dylid gwneud wrth ddilyn canllawiau a pholisïau'r Cyngor sydd yn cael ei arwain gan y tenantiaid yw hyn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer I ddeall fod y cyfrifoldeb tuag at y tenantiaid am les, arian a gofal personol yn gyfrifoldeb deiliad y swydd; ac i sicrhau'r safon uchaf o ofal tuag at y tenantiaid bob tro. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb moesol i hyrwyddo'r gwasanaeth mewn ffurf bositif bob amser.
Prif ddyletswyddau • I sicrhau bod urddas ac annibyniaeth y tenantiaid yn cael eu parchu drwy ymarfer gofal da ac yn unol á Safonau a Rheolaethau Safonol Cenedlaethol (e.e. AGGCC).
• I fod yn gyfrifol am gynnal natur y gwasanaeth sydd ei angen ar bob tenant yn ddyddiol.
• I gynorthwyo'r tenant i greu a chynnal cartref cyffyrddus, gan ddefnyddio Adnoddau cymunedol sydd ar gael.
• I gynorthwyo tenantiaid i ddatblygu eu sgiliau cadw ty a bywyd cymdeithasol e.e. siopa, coginio, bwyta'n iach, smwddio ayyb, penderfynu ar gyllid, golchi dillad a sefydlu rhwydwaith cymdeithasol.
• Bod yn sensitif i anghenion y tenantiaid a pharchu hawliau'r unigolion bob amser.
• I gadw cyfrinachedd ym mhob rhan o'r gwaith.
• Bod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu Cynllun Bywyd yr unigolyn.
• I hybu amgylchedd diogel i'r tenantiaid.
• Bod yn gyfrifol am ddyletswyddau penodol fel y cyfarwyddir gan Reolwr Llinellol yn unol a'r Cynlluniau Bywyd a lle yn berthnasol mynychu cyfarfodydd adolygiad, cynadleddau achos, a chyfrannu adroddiadau ar y tenantiaid yn ysgrifenedig neu ar lafar pan mae'r galw.
• I ymgymryd a'r dasg o dderbyn a rhannu meddyginiaeth yn unol á Pholisi'r Cyngor ar weinyddiaeth a rheolaeth ar feddyginiaeth.
• I ymgymryd á phob dyletswydd sydd yn cynnwys gofal ty, gofal personol a bywyd pob dydd y tenantiaid i'r safon maent wedi arfer iddo.
• Ble bynnag mae yn bosibl i hyrwyddo a chynnwys y tenantiaid i baratoi bwydydd iach a maethlon / byrbrydau a diodydd pan fo'r angen.
• I fynychu yn rheolaidd gyrsiau hyfforddi a chwblhau QCF lefel 2 yn bennaf i sicrhau cysondeb ymwybyddiaeth gyson ynglŷn á threfniadau gofal.
• I fynychu cyfarfodydd yn unol ag arweiniad y Rheolwr Llinellol.
• I fynychu o leiaf 4 cyfarfod tîm y flwyddyn (Hanfodol).
• Bydd yn rhaid darllen pob Asesiadau Risg sydd yn berthnasol i'r lleoliad gwaith; eu deall, llofnodi a dyddio.
• Mae yn rhaid darllen Llyfryn Staff, ei ddeall, llofnodi a'i ddyddio wrth ddechrau eich cyflogaeth.
• Bod yn gyfarwydd o sut i weithredu polisïau'r Cyngor, dulliau a chanllawiau sydd yn ymwneud ag ymarfer dda a materion sydd yn ymwneud á Gofal ac Iechyd.
• I ymgymryd ag unrhyw dasgau sydd yn addas a rhesymol i'r swydd yn unol a'r Rheolwr Llinellol ac sydd er lles a datblygiad y tenantiaid.
Amgylchiadau arbennig Mae'r Gwasanaeth Llety a Gofal yn paratoi gwasanaeth 24 awr mewn cytundeb gydag anghenion asesiad y tenantiaid.
• Yn unol ag anghenion y tenantiaid a'r gwasanaethau dydd sydd yn bodoli.
• Mae gwaith dyddiol y tŷ yn cychwyn am 7:00 y bore neu 7:30yb ac yn gorffen am 10:30 yr hwyr sydd hefyd yn gallu cynnwys shifftiau sydd wedi rhannu. Mae yn hanfodol bod staff yn gallu cychwyn am 7:00yb a phryd bynnag bydd y shifft yn cychwyn ar ôl hynny fod ar gael i weithio hyd at 11:00yh lle mae'r shifft 'cysgu i mewn' yn dod i rym.
• Gwaith Penwythnos - I weithio mwyafrif o 3 allan o rota o 4 wythnos; sydd yn ddibynnol ar strwythur y rota.
• Cysgu i Mewn - Bydd yn ofynnol i chi gysgu i mewn am leiafrif o 2 gysgu i mewn allan o rota 4 wythnos.
• Gallwch fod yn gweithio ar Gwyl Banc, Gwyliau Cyhoeddus, Nadolig a'r Pasg.
• I fod yn ymwybodol na all y gwasanaeth ddisgyn yn fyr o'i nod yn ystod amser o angen pan mae sefyllfaoedd yn codi e.e.:-
(a) Amgylchedd (e.e. eira, llifogydd ayyb etc).
(b) Iechyd (e.e. lefelau uchel o salwch).
• Yn ystod sefyllfaoedd o'r fath bydd disgwyliad arnoch i aros yn y tŷ hyd nes y bydd y sefyllfa wedi cael ei datrys.
• Oherwydd natur y gwasanaeth fe fydd yna sefyllfaoedd heb eu rhagweld lle bydd angen i staff aros yn y man gwaith hyd nes y bydd yna staff eraill i gymryd eu lle.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr