Gweithiwr Cefnogol Achlysurol - Ardal Dwyfor - Meirionnydd x2
Dyddiad cau 27/01/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
Sir Ddinbych
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Robert Andrew Whitten ar 07973219463
Cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 27/01/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i
weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o
fewn amserlen benodedig
Dymunol Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch e.e. Symud a Thrin, Cymorth Cyntaf
Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal cymdeithasol
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus
Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Dymunol Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodolYmwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o'r safonau perthnasolMeddu ar drwydded yrru ddilys
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o'u cymuned.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Dim cyfrifoldeb am adnoddau.
Prif ddyletswyddau PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL:
CEFNOGI'R UNIGOLION SY'N DEFNYDDIO'R GWASANAETH
• Gweithio i gwrdd ag amcanion llesiant yr unigolion yr ydych yn eu cefnogi, a sicrhau a parchu hawliau'r unigolyn.
• Dilyn ethos Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support ) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support ), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth.
• Cynorthwyo gyda gofal personol mewn modd urddasol a pharchus.
• Cyfrannu at/dilyn Cynlluniau Gofal Personol yr unigolion.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
• Cydweithio a chyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol a theuluoedd/gofalwyr.
CANLLAWIAU A POLISÏAU
• Gweithredu yn unol a gofynion y ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a chanllawiau a polisïau'r gwasanaeth a Cyngor Gwynedd (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru ).
• Ymrwymo i gôd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Côd Ymarfer ).
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Manteisio ar y cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol.
• Gwerthuso a dilyn rhaglenni Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol .
• Ymrwymo i gwblhau cymwysterau proffesiynol pan fo angen.
DIOGELU
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Rhaid i deilydd y swydd fod yn gallu ymgymryd â thasgau symud a thrin sy'n gallu cynnwys cadeiriau olwyn a hoistiau.
• Canllaw cyffredinol yw'r swydd ddisgrifiad yma yn unig. Efallai y bydd angen i'r holl weithwyr cefnogol ymgymryd â dyletswyddau sydd heb eu hamlinellu uchod ar gais Rheolwr y Tîm neu'r rheolwr llinell.
• Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw'n angenrheidiol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr