Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Lleoliad: Ardal Dwyfor
Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Karen Parry Davies ar 0777 633 8983, neu drwy e-bost KarenParryDavies@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'rcyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
14.11.24 Pecyn penodi plant a chefnogi teulu (2).pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Y gallu i ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ac efo hunan ddisgyblaeth.
Y gallu i ddangos gofal ac ystyriaeth am les plentyn neu berson ifanc bregus.
Sgiliau cyfathrebu da
Yn dangos symbyliad (initiative)
Yn onest
Hyblyg
Yn awyddus i dderbyn hyfforddiant, arweiniad a goruchwyliaeth.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Addysg gyffredinol o safon rhesymol
NVQ Lefel 3 Gofal Iechyd a Chymdeithasol - Llwybr Gofal Plant - neu yn barod i weithio tuag ato
Dymunol TGAU
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o ofalu am neu gefnogi unigolyn arall
Profiad perthnasol o weithio efo plant anabl neu plant sy'n wael
Profiad o waith swyddfa a gweithdrefnau gweinyddol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Dal trwydded yrru llawn
Dymunol Gwybodaeth gyffredinol o faterion datblygiad a diogelwch plant
Anghenion ieithyddol Hanfodol Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o'u cymuned.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Sicrhau defnydd priodol o offer arbenigol yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen
• Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion e.e. meddyginiaeth ac arian.
Prif ddyletswyddau PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL:
CEFNOGI'R UNIGOLION SY'N DEFNYDDIO'R GWASANAETH
• Gweithio i gwrdd ag amcanion llesiant yr unigolion yr ydych yn eu cefnogi, a sicrhau a pharchu hawliau a grymuso llais yr unigolyn
• Dilyn ethos Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support ) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support ), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
• Cynorthwyo gyda gofal personol mewn modd urddasol a pharchus.
• Cyfrannu at, adnabod cyfleoedd i addasu a dilyn Cynlluniau Gofal Personol yr unigolion ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
• Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu yn unol ag anghenion yr unigolyn
• Profi ffyrdd newydd o gefnogi ag atebion creadigol sy'n tynnu ar gryfderau.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
• Cydweithio a chyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol a theuluoedd/gofalwyr a chwilio am ddatrysiadau i allu helpu. Cyfrannu i drafodaethau aml disgyblaethol
CANLLAWIAU A PHOLISÏAU
• Gweithredu yn unol â gofynion y ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a chanllawiau a pholisïau'r gwasanaeth a Chyngor Gwynedd (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru ).
• Ymrwymo i gòd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Còd Ymarfer ).
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Manteisio ar y cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol.
• Gwerthuso a dilyn rhaglenni Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol .
• Ymrwymo i gwblhau cymwysterau proffesiynol pan fo angen.
DIOGELU
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
• Mentora staff newydd yn eu datblygiad
• Yn gymwys i allu asesu ac archebu man offer i unigolion
• Cyfrifoldeb dros weinyddu, dosbarthu a rhoi meddyginiaeth yn unol â pholisi
• Yn gallu ymgymryd â thasgau iechyd syml
• Cynnal asesiad manwl ag adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant
• Ymateb yn briodol ac yn sydyn i sefyllfaoedd o argyfwng
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Rhaid i deilydd y swydd fod yn gallu ymgymryd â thasgau symud a thrin sy'n gallu cynnwys cadeiriau olwyn a hoistiau.
• Canllaw cyffredinol yw'r swydd ddisgrifiad yma yn unig. Efallai y bydd angen i'r holl weithwyr cefnogol ymgymryd â dyletswyddau sydd heb eu hamlinellu uchod ar gais Rheolwr y Tîm neu'r rheolwr llinell.
• Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw'n angenrheidiol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr