Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Kevin Parry ar 01286 678590
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD CAU: 24/02/2025 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu i weithio mewn modd gwrth ormesol.
Gallu i gyfrannu i drafodaethau a chyfarfodydd.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol 2 graddau TGAU/Lefel O neu gymhwyster cyfatebol
Dymunol Cwrs sylfaenol gofal cymdeithasol
Cymhwyster cydnabyddedig gofal plant e.e. NVQ
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio hefo plant a'u teuluoedd.
Dymunol -
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Gallu i weithredu fel aelod o dim.
Gallu i gyfathrebu i safon dda, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gwybdoaeth sylfaenol am ddatblygiad plentyn
Dymunol Gwybodaeth am ddatblygu sgiliau rhiantu.
Gwybodaeth am ddulliau o ddelio ag ymddygiad herio
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• I Gefnogi Plant a'u Teuluoedd yn y Gymuned
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Cyllid ar gyfer gweithgareddau plant. Offer a chyfarpar a ddefnyddir i gludo plant mewn car
Prif ddyletswyddau • Gweithio yn unol a Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a'r Fframwaith Asesu Plant mewn Angen a'u teuluoedd fel aelod o dimau plant a theuluoedd yn y dair ardal o Wynedd gan gynnwys y Tim Plant yn derbyn gofal.
• Hybu a galluogi Plant a'u Teuluoedd i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
• Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
• Hyrwyddo dewis personol, galluogi plant a'u teuluoedd i wneud penderfyniadau ystyriol ac i rhoi rheolaeth i blant a'u teuluoedd dros benderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn.
• Sicrhau cysondeb mewn darpariaeth, a chydnabod pwysigrwydd y berthynas rhwng plant, teuluoedd a'r darparwr.
• Cynorthwyo a chefnogi teuluoedd i barhau i ofalu am eu plant.
• Pan fo plentyn yn cael ei dderbyn i ofal yr awdurdod, gweithio mewn partneriaeth a'r rhieni i ddychwelyd y plentyn yn ol i'w gofal yn gynnar.
• Lleihau risg blant a'u teuluoedd drwy weithio fel rhan o gynllun amddiffyn aml asiantaethol.
• Darparu gwasnaneth goruchwylio cyswllt rhwng plant sydd yn derbyn gofal a'u teuluoedd fel rhan o gynllun gofal llys.
• Paratoi adroddiadau manwl ar gynnwys cyswllt a phlant a'u teuluoedd a chynnwys yr adroddiaidau yn ffeil y plentyn.
• Mynychu cyfarfodydd tim ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo'r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Adnoddau.
• Derbyn goruchwyliaeth gyson.
• Ymgyfarwyddo a pholisiau, trefniadau a chanllawiau'r Cyngor ynglyn ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi yn ol cyfarwyddyd.
• Ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i'r swydd ac sydd er lles a datblygiad y plentyn.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Angen gweithio oriau hyblyg, dros y penwythnosau ac ar wyliau banc fel bo'r angen.(Gweithio 37 awr dros 5 diwrnod o'r wythnos
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr