Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dewi Jones ar 01766 810749 neu dros ebost; dewillyrjones@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amserGallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o
fewn amserlen benodedig
Dymunol Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch e.e. Symud a Thrin, Cymorth Cyntaf
Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal cymdeithasol
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus
Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol daSgiliau cyfathrebu daDealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Dymunol Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodolYmwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o'r safonau perthnasolMeddu ar drwydded yrru ddilys
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o'u cymuned.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Sicrhau defnydd priodol o offer arbenigol yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen
• Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion e.e. meddyginiaeth ac arian.
Prif ddyletswyddau PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL:
CEFNOGI'R UNIGOLION SY'N DEFNYDDIO'R GWASANAETH
• Gweithio i gwrdd ag amcanion llesiant yr unigolion yr ydych yn eu cefnogi, a sicrhau a pharchu hawliau a grymuso llais yr unigolyn
• Dilyn ethos Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support ) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support ), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
• Cynorthwyo gyda gofal personol mewn modd urddasol a pharchus.
• Cyfrannu at, adnabod cyfleoedd i addasu a dilyn Cynlluniau Gofal Personol yr unigolion ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
• Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu yn unol ag anghenion yr unigolyn
• Profi ffyrdd newydd o gefnogi ag atebion creadigol sy'n tynnu ar gryfderau.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
• Cydweithio a chyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol a theuluoedd/gofalwyr a chwilio am ddatrysiadau i allu helpu. Cyfrannu i drafodaethau aml disgyblaethol
CANLLAWIAU A PHOLISÏAU
• Gweithredu yn unol â gofynion y ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a chanllawiau a pholisïau'r gwasanaeth a Chyngor Gwynedd (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru ).
• Ymrwymo i gòd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Còd Ymarfer ).
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Manteisio ar y cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol.
• Gwerthuso a dilyn rhaglenni Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol .
• Ymrwymo i gwblhau cymwysterau proffesiynol pan fo angen.
DIOGELU
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
• Mentora staff newydd yn eu datblygiad
• Yn gymwys i allu asesu ac archebu man offer i unigolion
• Cyfrifoldeb dros weinyddu, dosbarthu a rhoi meddyginiaeth yn unol â pholisi
• Yn gallu ymgymryd â thasgau iechyd syml
• Cynnal asesiad manwl ag adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant
• Ymateb yn briodol ac yn sydyn i sefyllfaoedd o argyfwng
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Rhaid i deilydd y swydd fod yn gallu ymgymryd â thasgau symud a thrin sy'n gallu cynnwys cadeiriau olwyn a hoistiau.
• Canllaw cyffredinol yw'r swydd ddisgrifiad yma yn unig. Efallai y bydd angen i'r holl weithwyr cefnogol ymgymryd â dyletswyddau sydd heb eu hamlinellu uchod ar gais Rheolwr y Tîm neu'r rheolwr llinell.
• Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw'n angenrheidiol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr