Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elliw Haf Thomas ar 07767498644 neu ElliwHafThomas@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant.pdf
Manylion Person Nodweddion personolHanfodol Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol
Ddim yn farnwr
Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno
Yn gallu defnyddio'ch dychymyg i gysylltu'n emosiynol ag eraill
Gwerthfawrogi gallu'r unigolyn
Gallu gwneud y gorau o'r amser y mae'n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol
Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill
Y gallu i fod yn hyblyg
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar
Byddwch yn brydlon, oni bai mewn amgylchiadau eithriadol
Y gallu i ymgymryd â gwaith dynodedig heb oruchwyliaeth a threfnu gweithgareddau o ddydd i ddydd a dyddiadur ei hun. Dymunol - Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol QCF/NVQ lefel 2 mewn gofal neu ymrwymiad i ennill y cymhwyster o fewn
amser penodol Dymunol Deall Ethos o Ofal Person yn ganolog Profiad perthnasolHanfodol Profiad o fod wedi gweithio / cefnogi unigolion i fyw eu bywydau wrth iddynt fyw.
Profiad o gefnogi unigolion sy'n byw gyda Dementia Dymunol Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a pherson pwyllog wrth ddelio gydag unigolion.
Yn sensitif i deimladau eraill
Gallu dangos dyfeisgarwch
Y gallu i greu perthynas dda gydag aelodau eraill o staff ac unigolion
Sgiliau cyfathrebu a chofnodi da, yn parchu ac yn onest.
Gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi mewn gweithgareddau byw bob dydd megis coginio a glanhau. Dymunol - Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Sylfaen Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth. Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a'r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau. Darllen a Deall - Sylfaen Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd. Ysgrifennu - Sylfaen Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Hyrwyddo ethos gofal person canolog drwy safonau ymarfer proffesiynol sy'n cwrdd ag anghenion corfforol, emosiynol, deallusol cymdeithasol ac ysbrydol o'r rhai sydd yn defnyddio'r gwasanaeth.
• Cefnogi pobl i wneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar eu bywydau, gan gynnwys yr unigolion a'u teuluoedd.
• Datblygu a dilyn cynllun unigol a grëir ar y cyd gydag unigolyn a thimau cymuned i hybu bywyd mor llawn â phosib, gan hyrwydd cyfranogiad yn eu cymunedau.
• I roi cefnogaeth ymarferol, cyngor a mynediad i adnoddau, gweithgareddau, grwpiau a rhaglenni cymunedol eraill i bobl sydd yn byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr a fydd yn cynnal annibyniaeth, eu ffordd o fyw a'u pherthnasoedd presennol am mor hir â phosib
• Cefnogi ac yn annog unigolion i fod mor annibynnol â phosibl. Gellir gwneud hynny drwy gynorthwyo'r unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr gyda thasgau nad ydynt yn gallu eu cyflawni neu yn ei chael hi'n anodd eu gwneud ar ben eu hunain. Sicrhau bod lles corfforol ac emosiynol y defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu cyfarch drwy weithredu ar y Cynllun ddefnyddwyr gwasanaeth penodol. Gwenir hyn drwy ddilyn yr holl ganllawiau a pholisïau yn ogystal â chydymffurfio a rheoliadau Cyngor Gwynedd a gwasanaethau rheoledig (Defnyddwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017. Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Parchu a defnydd priodol o unrhyw offer a chyfarpar sydd eu hangen i gyflawni eich dyletswyddau.
• Hysbysu eich rheolwr llinell a /neu'r person sy'n gyfrifol am yr offer cyn gynted â phosib o unrhyw ddiffyg ynddo, neu ddiffyg gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb).
• Sicrhau bod eiddo defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei reoli'n briodol e.e., meddyginiaeth ac arian parod. Prif ddyletswyddau • Hyrwyddo annibyniaeth, hunangynhaliaeth, lles, dewis a rheolaeth trwy gynorthwyo pobl i ddeall eu sefyllfa yn well ac i'w cynorthwyo i ddatblygu strategaethau ymdopi.
• Parchu hawliau, credoau a dewisiadau unigolion, a chymryd risgiau, cynnal a chefnogi eu dymuniad i aros yn eu cartref a'u cymuned ddewisol, gan deimlo'n ddiogel, ac yn mwynhau gwell iechyd, lles a gwell ansawdd bywyd.
• Datblygu a dilyn cynllun unigol a grëir ar y cyd gydag unigolyn a thimau cymuned i hybu bywyd mor llawn â phosib, gan hyrwydd cyfranogiad parhaus.
• Canolbwyntio ar gefnogi drwy ddulliau person canolog, gan gadw o fewn polisïau a gweithdrefnau'r Cyngor a'r Gwasanaeth.
• Sicrhau a pharchu urddas ac annibyniaeth unigolion mewn amgylchedd empathetig.
• Bydd angen hyrwyddo hawliau'r unigolyn trwy nodi, mesur a lleihau'r elfen o risg.
• Cynorthwyo gyda gofal personol mewn achosion a nodwyd (ar sail tymor byr) oherwydd bod perthynas ymddiriedol ac arbennig o dda gyda'r unigolyn wrth gyflwyno'r gwasanaeth o ofal cartref. (Os yn briodol i gynnal yr angen am y cyfnod hir).
• Mae'n ofynnol i ddeilydd y swydd weithio mewn lleoliadau anghysbell, gweithio ar eu pen eu hunain a chynnal rhaglenni gofal unigol cytunedig, ond gyda'r cwmpas i wneud addasiadau hanfodol, adrodd yn ôl i'r cydlynydd gofal/ rheolwr llinell neu mewn argyfwng i'r meddyg teulu.
• Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth a'r cysylltwr cymunedol, y trydydd sector, a chymunedau i agor eu gwasanaethau i bobl sydd yn byw efo Dementia.
• Nodi, cefnogi ac annog sgiliau a gallu, ac i gefnogi'r unigolion i gymryd rhan weithgar yn eu cymuned.
• Bod yn frwdfrydig gydag ysbrydoliaeth i rymuso unigolion
• Bod yn sensitif i'r angen i barchu hawliau, credoau a dewisiadau'r unigolyn bob amser.
• Hyrwyddo cyfathrebu gonest a chadarnhaol agored ar bob lefel ac ar bob achlysur.
• Hyrwyddo cyfrinachedd bob amser.
• Adnabod unrhyw newidiadau a chymryd camau priodol.
• Mynychu a chyfrannu at adolygiadau cynlluniedig
• Cofnodi gwybodaeth yn gywir yn barchus ac ag urddas yn iaith yr unigolion mewn dogfennau a ffeiliau bob dydd.
• Atal derbyniadau diangen neu gynamserol i ysbytai, cartrefi preswyl a gofalwyr yn cael eu dadansoddi trwy gymorth amserol i unigolion a' Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a chydymffurfio a'r cod gwisg addas
• Cydymffurfio'n llawn â chod ymarfer meddyginiaeth Cyngor Gwynedd
• Ymrwymo i ddilyn rhaglen hyfforddi yn unol â'r gofynion cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.
• Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Mynychu cyfarfodydd fel y cyfarwyddyd gan y Rheolwr Llinell
• Mynd i sesiynau Goruchwylio a Gwerthuso.
• Cael gwybodaeth a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar arfer da.
• Cydymffurfio a gofynion polisi a chanllawiau Amddiffyn Oedolion sy'n agored i Niwed Cymru.
• Meddu ar drwydded yrru ddilys a defnyddio cerbyd a chydymffurfio a pholisi teithio Cyngor Gwynedd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin Amgylchiadau arbennig • Bydd angen mynd trwy'r broses Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio
• Delio a chronfeydd personol unigolion yn unol â chynllun gofal neu ganllawiau trafodion ariannol Cyngor Gwynedd os oes angen.
• Ar brydiau efallai bydd angen i'r deiliad swydd ymgymryd â dyletswyddau cysgu mewn.
• Cyflawni dyletswyddau a ddirprwyir i chi gan eich rheolwr llinell.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr