Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Jenine Cassim ar 01766 772599 neu drwy e-bost: JenineCassim@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 19/03/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant.pdf
Manylion Person Nodweddion personolHanfodol Cyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant
Y gallu gweithio fel rhan o dim aml-ddisgyblaeth Dymunol - Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol NVQ 2 mewn Gofal
Sgiliau cyfathrebu da (geiriol ac ysgrifennedig) Dymunol - Profiad perthnasolHanfodol - Dymunol Dealltwriaeth o iechyd meddwl ai effaith ar unigolyn
Gwybodaeth o anghenion cyfrinacholdeb Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd. Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. • Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cefnogol Iechyd Meddwl ymroddedig a chydymdeimladol i ymuno â Thîm Gwasanaethau Cymdeithasol Iechyd Meddwl De Gwynedd. • Mae'r rôl hon yn cynnwys cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl i fyw yn annibynnol ac yn ystyrlon yn eu cymunedau. Gan weithio fel rhan o dîm aml-asiantaeth, byddwch yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i unigolion yn unol â'u cynlluniau gofal cytunedig. • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gofal cymdeithasol a nyrsys seiciatrig cymunedol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i gefnogi adferiad a llesiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer -
Prif Ddyletswyddau.
Prif Gyfrifoldebau
• Cefnogi unigolion ag anghenion iechyd meddwl i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned • Cynorthwyo unigolion i weithio tuag at nodau a nodir yn eu cynlluniau gofal • Darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i hyrwyddo adferiad a llesiant • Annog datblygiad sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd er mwyn cefnogi byw'n annibynnol • Gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl ar draws gwasanaethau • Cynnal cofnodion cywir a dilyn polisïau a gweithdrefnau Cyngor Gwynedd
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd: • â mewn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl • yn dosturiol, yn barchus ac wedi ymrwymo i hyrwyddo annibyniaeth • â sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm da • yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol • yn barod i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol • Byddai gwybodaeth o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a phrofiad o weithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
• Bydd y rôl yn cynnwys goruchwyliaeth reolaidd a chyfleoedd hyfforddi. • Disgwylir i chi gynnal cyfrinachedd a gweithio o fewn gofynion diogelu, iechyd a diogelwch, a diogelu data. • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor. • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb. • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd. • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b. • -
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr