Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31-03-2025 gyda'r potensial i ymestyn yn amodol ar gyllid Dechrau'n Deg parhaus
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Blynyddoedd Cynnar ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £27,711 - £30,060 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn recriwtio gweithiwr profiadol i gyflwyno ein hymyraethau cymorth i deuluoedd yn y cartref, yn y gymuned ac yn rhithwir.
Mae’r cymorth hwn yn cynnwys ymyrraeth cymorth pwrpasol i deuluoedd, gan weithio gyda'r teulu i fynd i'r afael â gwraidd y materion sydd wedi'u codi. Mae gan y swydd hon ffocws penodol ar gynorthwyo teuluoedd gyda phryderon iechyd meddwl a lles wrth fod yn rhan annatod o'r ddarpariaeth cymorth i deuluoedd a'r tîm Blynyddoedd Cynnar ehangach. Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cyflwyno rhaglenni cynenedigol, ôl-enedigol ac amrywiaeth o raglenni rhianta/cymorth i deuluoedd fel sy’n cael eu nodi y mae angen. Mae pob ymyrraeth ar gyfer plant 0-7 oed gyda’r nod o helpu rhieni, helpu datblygiad eu plentyn a chynorthwyo gyda gwydnwch y teulu. Mae’r swydd wedi ei leoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Parc y Felin, ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â rhywfaint o weithio o gartref. Mae'r swydd hon yn rhan o Dîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ehangach ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.
Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddysgu Cymraeg sgyrsiol sylfaenol a bydd ganddyn nhw brofiad o gyflwyno pecynnau cymorth i deuluoedd yn y cartref neu yn y gymuned.
Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu'n bennaf drwy Dechrau’n Deg, ac felly mae’n swydd gyfnod penodol oherwydd telerau ac amodau’r grant hyd at 31 Mawrth 2025, gyda'r posibilrwydd i ymestyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 3 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, mewn lleoliad perthnasol megis Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol.
- Gwybodaeth am gymorth i deuluoedd, cymorth iechyd meddwl a lles, a dulliau asesu teuluoedd ar gyfer cydlynu cymorth priodol i deuluoedd.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ceri -Anne Lovell ar 07850319121 neu ebost:
lovelc@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.