Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithredwr / Gweithiwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae'r tîm sy'n darparu Gwasanaeth Anabledd Integredig ar gyfer unigolion hyd at 25 oed yng Nghonwy yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol.
Drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, a helpu pobl i ennill, adennill, cynnal neu ddatblygu eu sgiliau byw yn annibynnol, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn gweithio i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau.
Bydd cyfleon i chi weithio mewn partneriaeth ag iechyd ac addysg, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn gweithredu ymagwedd integredig at ddiwallu anghenion cymdeithasol, addysgol ac iechyd plant ac oedolion ifanc.
Rydym ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol â gweledigaeth ac angerdd sy'n gallu datblygu perthynas effeithiol a rhannu'r cyfrifoldeb am gefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau i fyw bywydau yn ôl eu dewis
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: John Fozzard, Rheolwr Tîm, 01492 575152 / john.fozzard@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr