Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dyma gyfle i weithiwr cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd i ymuno â thîm arloesol ar adeg o foderneiddio.
Rydym yn chwilio am unigolyn gydag egni a brwdfrydedd er mwyn ychwanegu at y tîm cefnogol a phrofiadol presennol.
Byddwch yn cael goruchwyliaeth ac arweiniad proffesiynol, a byddwch yn cael cynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad pellach.
Cyfrifoldebau allweddol y swydd fydd asesu teulu a ffrdindiau fel darpar ofalwyr maeth neu warcheidwaid arbennig.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rôl allweddol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau Plant sy'n Derbyn Gofal drwy asesu rhai sy'n gyfylltiedig â'r plentyn. Mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o natur unigryw a chymhleth y trefniadau a'u bod yn gallu gweithio'n effeithiol drwy gyfrannu at ddatblygiadau'r gwasanaeth ac arloesi.
Mae'n hanfodol fod deiliad y swydd yn gallu teithio ar hyd a lled y Sir yn rheolaidd, yn aml i fannau anghysbell ar fyr rybudd. Bydd deiliad y swydd hefyd yn asesu rhai sy'n byw tu allan ir Sir.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd uchod.
Yn gyfnewid, gallwch ddisgwyl: • Hawl hael i wyliau • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Gostyngiadau ac arian yn ôl mewn siopau stryd fawr lleol • Cyfle i brynu cynllun arian iechyd i hawlio tuag at gostau deintyddol, sbectols, therapi ac ati • Mynediad dau ddeg pedwar awr at y rhaglen cymorth i weithwyr am gyngor a chymorth
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Stacey Chambers, Rheolwr Tim Personau Cysylltiedig, 01492 5772287 , Stacey.chambers@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr