Mae gennym gyfle yng Ngheredigion ar gyfer recriwtio i swydd Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol i weithio yn y Tim Gofal wedi ei Gynllunio gydag oedolion hwn, pobl ag anableddau corfforol ac anawsterau seiciatrig henaint sydd angen cynlluniau gofal a chymorth dan Rhan 3 a 4 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a gyda gofalwyr sydd angen cymorth o.
Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i ddull Arwyddion Diogelwch ac mae wrthi'n trawsnewidio i fodel gydol oed a theulu cyfan fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion ac mae hyn wedi arwain at cyfleodd cyffrous ar gyfer cydweithredu gyda adrannau tu fewn yr awdurdod yn ogystal a'n hasiantaethau partner.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd a rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 flynedd o benodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld
yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch gyda Ruth Jones:
Ruth.Jones@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw: