Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2507
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Social Worker
Cyflog:
£39,152 up to £47,181*
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£20.29 up to £24.46*
Oriau Contract:
37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Diogelu Oedolion ymroddedig yn Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol brwdfrydig a chymhellol sydd wedi ymrwymo i gynnal hawliau a lles oedolion mewn perygl yn ein cymuned. Os ydych yn ffynnu mewn amgylchedd amlasiantaeth cyflym ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth ystyrlon, rydym am glywed gennych. Fel rhan o'n tîm, byddwch yn:
Cydweithio â phartneriaid i ddiogelu oedolion rhag camdriniaeth, esgeulustod, a niwed
Gweithio'n uniongyrchol ag oedolion mewn perygl, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u hanghenion yn cael eu diwallu
Rheoli achosion diogelu yn effeithlon ac yn effeithiol
Cyfrannu at ddiwylliant tîm cefnogol sy'n canolbwyntio ar welliant parhaus ac eiriolaeth
Byddwch yn dod â:
Cymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol (e.e., BA, MA, neu gyfwerth)
Sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau cryf
Ymroddiad i ddiogelu, cydraddoldeb, a hawliau dynol
Brwdfrydedd i ddatblygu'n broffesiynol o fewn tîm deinamig a chynhwysol
Beth rydym yn ei Gynnig
Cyflog yn dechrau ar Radd I, gyda chyfleoedd i symud ymlaen i Radd J
Cyfle i ennill profiad cyfoethog o fewn fframwaith amlasiantaeth
Rheolaeth gefnogol a mynediad at baneli datblygiad proffesiynol
Barod i wneud gwahaniaeth? Gwnewch gais nawr a byddwch yn rhan o dîm lle mae eich brwdfrydedd yn cwrdd â phwrpas.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Rachel Field 01267 228991 - rfield@sirgar.gov.uk
* Mae dilyniant y tu hwnt i bwynt cyflog £42839, hyd at uchafswm o £47181 yn amodol ar asesiad panel dilyniant o dan 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol Gwaith Cymdeithasol' yr Awdurdod**
**Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol
Mae'r 'Fframwaith' yn cydnabod Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi cwblhau eu rhaglen atgyfnerthu, ac sy'n ymgymryd ag ymarfer gwaith cymdeithasol cymhleth yn rheolaidd. Mae hefyd yn cydnabod y Gweithwyr Cymdeithasol hynny sy'n ymgymryd ag ymchwil a rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus ôl-gymhwyso perthnasol, a allai gynnwys bod yn Addysgwr Ymarfer sydd â myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a'u trydedd flwyddyn, neu feddu ar drwydded Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ac ymarfer yn yr Awdurdod.
Disgrifiad Swydd:
035072.pdf - 289KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
16 Rhagfyr 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/11/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.