Gweithiwr Cymdeithasol (Glas Weithiwr (L1) Gweithiwr Cymdeithasol (L2) Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) )
Dyddiad cau 28/01/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Dros dro
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Hysbyseb Swydd - Gweithiwr Cymdeithasol
(Glas-weithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol)
Gwasanaeth: Plant - TÎM MAETHU
Yn fodlon cysidro secondiad gyda chaniatad eich Rheolwr presennol yn gyntaf
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Gwybodaeth am y swydd:
Ydych chi...
Os mai 'ydw' yw eich ateb i'r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a'u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â'u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â'u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a'r Swydd Ddisgrifiad a'r Manylion Person (ynghlwm).
Cyflog : S4 / PS1 / PS2 (yn ddibynol ar brofiad)
L1 (Glas Weithiwr Cymdeithasol) - S4 (pt 26-28) £34,834-£36,648
L2 (Gweithiwr Cymdeithasol) - PS1 (pt 29-31), £37,336-£39,186
L3 (Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol) - PS2 (pt 31-33), £39,186-£41,418
Galluogir i aelod staff fynd heibio trothwyon cyflog yn unol a phrofiad a pherfformiad.
Gweler y Pecyn Gwybodaeth atodol - Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a'r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a'r Manylion Person. Cewch hefyd wybodaeth am becyn cyflogaeth deiniadol sydd ar gael.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cysylltwch â ni:
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Shelley Louise Hughes ar 07387231667
Rhagwelir cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 28/01/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Gwasanaethau Plant (3).pdf
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dim.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy'n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy'n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd.
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Gweler uchod
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) -
Gweler uchod
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Yn ychwanegol i'r gofynion uchod (L1);
Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) -
Gweler uchod (L1) + (L2)
Dymunol
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Cymhwyster Addysgwr Ymarfer
Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP
Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) -
Gweler uchod (L2)
Profiad perthnasol
Hanfodol
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Yn ychwanegol i'
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a'u gofalwyr.
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) -
Yn ychwanegol i'r gofynion uchod (L1) a (L2);
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)

Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas.
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Yn ychwanegol i'r gofynion uchod (L1):
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) -
Sgiliau gwaith llys (Swydd maes plant)

Sgiliau gwaith llys
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) -
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
• Asesu anghenion oedolion a'u gofalwyr yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
• Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i'w galluogi i gwrdd ag amcanion personol.
• Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth.
• Darparu gwybodaeth ynglŷn â'r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion i fyw mor annibynnol â phosib a gwella eu hansawdd bywyd i'r eithaf.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a'r cyfrifoldebau statudol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid - Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
• Offer - Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd
Prif ddyletswyddau
Lefel 1 - Glas-weithiwr Cymdeithasol (Dyletswyddau Cyffredinol)
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a'r canllawiau perthnasol sy'n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu'r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.
• Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer gwaith cymdeithasol trwy fyfyrio parhaus.
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
• Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
• Cynnal asesiad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' i nodi beth sy'n
bwysig i'r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu weithwyr cymdeithasol mwy profiadol.
• Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy'n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
Lefel 2 - Gweithiwr Cymdeithasol (Dyletswyddau Cyffredinol)
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
• Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
• Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso.
•n hwyluso
gofal a chymorth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol.
•n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Lefel 3 - Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (Dyletswyddau Cyffredinol)
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cefnogi cydweithwyr gyda'u datblygiad trwy fentora.
• Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa gyda myfyrdod parhaus trwy weithgaredd ymarfer myfyriol unigol neu grŵp.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
• Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl fentora.
•n bwysig i'n hwyluso gofal a chymorth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.
•n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.
• Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl fentora.
Dyletswyddau Lleol
• Helpu i recriwtio gofalwyr maeth;
• Gweithredu o fewn Rheoliadau Maethu (2020)
• Asesu gofalwyr maeth ar gyfer gofalu am blant a phobl ifanc mewn gofal a chyflwyno'r asesiadau i Banel Maethu Gwynedd; Helpu darganfod lleoliadau i blant a phobl ifanc sydd angen dod i fewn i ofal yr Awdurdod Lleol, unai o fewn adnoddau'r tîm neu adnoddau a ddarperir gan asiantaethau annibynnol; Adolygu'r gofalwyr maeth yn flynyddol er mwyn canfod os ydynt yn parhau i gyrraedd lefel disgwyliedig o fewn y cymhwyseddau maethu; Cyfrannu at hyfforddiant o safon uchel i ofalwyr maeth.
• Bod yn rhan o rota dyletswydd y tîm a cynghor a chefnogi gofalwyr maeth ar sail bod yn weithiwr dyletswydd.
• Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y Cyhoedd, asiantaethau eraill, y wasg ayyb ynglŷn á maethu.
• Gweithredu yn unol ag ethos 'Maethu Cymru' Hyrwyddo dull therapiwtig o faethu.
Dyletswyddau Eraill
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
• Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.

- Am gyfrannu i gyflogwr sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
- Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da

Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.