Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Achlysurol)
Dyddiad cau 02/02/2025
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Achlysurol) G09 £19.20 - £20.48 yr awr
Sesiynol Mewnol yn Unig Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn wasanaeth rhanbarthol sy'n ymgymryd â recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd ac yn Wasanaeth Cyfryngol ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn. Mae cyfle wedi codi i ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Sesiynol ym meysydd Cymorth Mabwysiadu, Mynediad at Gofnodion Geni, Cwnsela Rhieni Biolegol a Gwasanaeth Cyfryngol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Efallai y bydd angen rhywfaint o waith asesu. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig profiadol a brwdfrydig. Bydd y swydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ond bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws Gogledd Cymru a bydd gofyn iddo gysylltu â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Chonsortia Mabwysiadu Rhanbarthol eraill. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Rheolwr Tîm Gweithredol GMGC - Nia Hardaker: nia.hardaker@wrexham.gov.uk Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.