Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma . Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig sy'n chwilio am y cyfle i weithio mewn ardal wledig a heddychlon yng Ngorllewin Cymru?
Fel gweithwr cymdeithasol bydd gennych brofiad ar ôl ennill cymhwyster ym maes gwasanaethau gofal plant gan fod yn rhan o'r gwaith o recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi gofalwyr yn unol â Safonau Cenedlaethol Maethu. Byddwch chi'n cael eich cefnogi â chefnogaeth reolaidd. Bydd cyfle i ymgymeryd a phrosiectau newydd.
Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i'r dull Arwyddion Diogelwch ac mae yn y broses o drawsnewid i'r model gydol oed sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd i ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i fodloni gofynion ac mae hyn wedi arwain at rai cyfleoedd cyffrous i gydweithio rhwng adrannau o fewn yr awdurdod yn ogystal â gyda'n hasiantaethau partner.
Rydym yn chwilio am unigolion a chanddynt rywfaint o allu yn y Gymraeg. Pe na bai gan ymgeisydd llwyddiannus y medrau gofynnol yn y Gymraeg, byddai'n cael ei gefnogi'n llawn i gyrraedd y safon angenrheidiol o fewn dwy flynedd i ddyddiad ei benodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld
yma.Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, yn gyflym ac yn hyderus, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu ddatblygu eich gyrfa, wrth i chi weithio gyda ni.
Mae'r swydd yn gofyn am Wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. A'r brydiau fydd ofyn i chi gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Fe wnawn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Wedi cymwhwyso)Cysylltwch â ni Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon cysylltwch â Bev Jones ar
bev.jones2@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy