(Carfan Cymorth Rhieni Maeth sy'n Berthnasau)Uned 2 Parc Busnes Hen Lofa'r Maritime, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd CF37 1NY
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol yn rhan o garfan Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn y Gwasanaethau i Blant.
Fe fyddech chi'n gyfrifol am roi cymorth i Rieni Maeth a'r broses adolygu gysylltiedig.
Os ydych chi'n chwilio am her newydd ac yn meddu ar yr wybodaeth ynghylch cynnal asesiadau a llunio cynlluniau ac adolygiadau, a bod gyda chi brofiad o wneud hyn, mae modd i ni gynnig cymorth carfan gefnogol a phrofiadol i chi.
Byddwch chi'n rhan o wasanaeth maethu prysur sydd hefyd yn rhoi cymorth i rieni maeth ac yn eu goruchwylio; gwasanaeth sydd hefyd yn recriwtio, ac yn darparu gwasanaethau lleoli ar gyfer y Gwasanaethau i Blant yn eu cyfanrwydd ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr sy'n rhan o'r gwasanaethau hynny.
Dylech chi feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch anghenion a phrofiadau plant sydd ddim yn gallu byw gyda'u rhieni, yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth o ran sefyllfaoedd teuluol cymhleth a chymorth yn ymwneud â hyn.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod y maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, hynny o safbwynt proffesiynol a phersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol, sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr, er mwyn iddyn nhw gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Drwy gydol y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. O ganlyniad i hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O gael eich penodi, byddwch chi'n elwa yn sgil gwell llwybr gyrfa ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cymorth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion: Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarferydd. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedi ymrwymo i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda nhw sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
O gael eich penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin cysylltiadau ag asiantaethau partner, a'u cynnal. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O gael eich penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd rhaid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i roi tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.
I gael rhagor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol, ffoniwch Gemma Higgon-Young, Rheolwr y Gwasanaeth ar 07384456966 neu e-bostio:
Gemma.L.Higgon-Young@rctcbc.gov.uk Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau Gweithio Hyblyg
- Cyfleoedd Datblygu Gyrfa Ardderchog
- Cynllun Pensiwn Ardderchog gyda Chyfraniadau gan y Cyflogwr
- Cymorth a Chyngor Iechyd Galwedigaethol
- Cynllun Buddion Staff
- Cerdyn Gostyngiadau 'Vectis'
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd ar bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma o ran diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran; rhyw; hil; anabledd; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd; crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid; Y Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr; a 'Perthyn', ein Rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor yn gysylltiedig â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, byddwch chi'n cael eich gwahodd i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed gennym ni o fewn pedair wythnos i'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais ar gyfer swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau y bydd ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.