Gradd 11 £41,511 fesul blwyddyn- Gweithiwr lefel mynediad neu weithiwr sydd â hyd at 3 blynedd o brofiad ac sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12 £44,711 fesul blwyddyn Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol ac sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd
Gweithiwr Cymdeithasol a fydd yn gweithio yn rhan o'n Carfan Cymorth i bobl ifainc 14+
sydd newydd eu hailgyflunio. Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar gyfnod cyffrous o drawsnewid ein gwasanaeth. Gwybodaeth am y Swydd Rydyn ni'n chwilio am weithwyr cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig sydd â’r angerdd a’r awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant ac sy'n gallu helpu i gymell y rhwydweithiau o amgylch ein pobl ifainc i gyflawni safonau rhagorol o ofal a chymorth.
Fydd deiliad y swydd yma ddim yn gyfrifol am achosion penodol ond bydd yn cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol ac emosiynol i bobl ifainc, rhieni a chynhalwyr. Bydd y gweithiwr cymdeithasol sy'n gweithio yn rhan o garfan Cymorth i bobl ifainc 14+ yn gyfrifol yn uniongyrchol i'r gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol ac mae disgwyl iddyn nhw ymgymryd ag ymyraethau sy'n cael eu hystyried yn fwy cymhleth, gyda chymorth yr uwch weithiwr cymdeithasol. Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cefnogi pobl ifainc i barhau i fyw gyda'u teuluoedd, gan ddarparu ymyraethau sydd wedi'u teilwra i helpu i gefnogi newid, a chynnal perthynas iach. Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal a'u cynhalwyr, gan gefnogi lleoliadau sefydlog a cheisio atal lleoliadau rhag methu.
Mae'n
carfanau 14+ yn cynnig cymorth arbenigol i bobl ifanc 14-25 oed sy’n derbyn gofal, sy’n byw gartref gyda theulu, sy’n profi digartrefedd neu sy’n gadael gofal, gan eu grymuso i ddatblygu sgiliau bywyd cynaliadwy ac annibyniaeth. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (PPHCLl) i sicrhau eu bod yn cael y cymorth, arweiniad a'r diogelu sy'n diwallu eu hanghenion penodol nhw.
Ein nod yw cynnig gwasanaeth sy’n gwella’r cyfleoedd a'r deilliannau ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a hynny'n flaenoriaeth, gan sicrhau profiad mwy sefydlog ar hyd eu taith yn derbyn gofal. Mae cynllunio pontio i fyd oedolion yn ganolbwynt allweddol o ran ein gwaith, rydyn ni'n gweithio gydag asiantaethau partner i sicrhau bod pobl ifanc yn gadael gofal ar yr amser sy'n iawn iddyn nhw, a bod y cymorth a’r llety mwyaf priodol ar gael iddyn nhw.
Manteision: Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cyflwyno Model Ymarfer newydd ledled y gwasanaeth, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn Ystyriol o Drawma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael mynediad at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - gan gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymusol gyda phobl ifainc a'u teuluoedd. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi bwrpasol sy'n ystyriol o drawma.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn treialu polisi gweithio hyblyg gwell yn y carfanau yma, gan ganiatáu i chi gael hyd at 2 ddiwrnod di-waith y mis!
- Mynediad i’n ‘Mannau myfyriol’ uchel eu parch sy’n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng y garfan neu unigolion, wedi’u hwyluso gan seicolegydd sy’n cefnogi rhannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i’n Huned Iechyd Galwedigaethol a ‘Vivup’, ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion Cwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes ratach a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblantI gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Rheolwr, cysylltwch â: Nicola Bowditch, Rheolwr y Gwasanaeth E-bost- Nicola.Bowditch@rctcbc.gov.uk Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Blwyddyn Olaf Mae gan RCT hanes llwyddiannus a phrofedig o gefnogi nifer fawr o fyfyrwyr ar bob lefel. Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n llwyddiannus mewn cyfweliad yn cael cynnig y cyfle i gael eu cyflogi yn Rheolwyr Materion Asesu Gofal dros dro o'r cyfle cyntaf hyd nes bod eu cofrestriad wedi'i gwblhau. Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n deall bod modd i'r cyfnod trosglwyddo o astudiaethau i gyflogaeth fod yn brysur, ac felly mae modd i'r oriau cyn dechrau swydd yn weithiwr cymwysedig fod yn hyblyg i weddu i anghenion yr unigolyn. Rhowch gynnig arni!
Gwybodaeth Ychwanegol Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yn eu cyfweliad.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu.
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.