Uned 2, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd.
Gradd 11 - Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 - Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Ydych chi'n barod am her newydd yn eich gyrfa gofal cymdeithasol? Oes gyda chi ddiddordeb brwd mewn cynorthwyo teuluoedd a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant? Os felly, byddai Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf wrth eu boddau yn clywed gennych chi.
Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol llawn amser i ymuno â'n Carfan Cymorth i Berthnasau sy'n Rhieni Maeth ymroddedig a chyfeillgar. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o wasanaeth sydd wir yn gwerthfawrogi eich arbenigedd ac yn cynorthwyo'ch twf proffesiynol.
Yn y swydd yma, byddwch chi'n canolbwyntio ar waith cynorthwyo ac adolygu Perthnasau sy'n Rhieni Maeth a Gwarcheidwaid Arbennig. Byddwch chi'n rhan o wasanaeth maethu deinamig sydd nid yn unig yn cefnogi ac yn goruchwylio rhieni maeth ond hefyd yn recriwtio a darparu lleoliadau ar draws yr holl Wasanaethau i Blant. Byddwch chi'n cydweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws yr adran er mwyn sicrhau'r deilliannau gorau ar gyfer plant a theuluoedd.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd:
- Yn meddu ar ddealltwriaeth gref o anghenion plant nad ydyn nhw'n gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol
- Yn meddu ar brofiad o lywio deinameg teulu cymhleth
- Gydag ymrwymiad at arfer gwrth-ormesol a chymorth cynhwysol
- Yn meddu ar sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio ardderchog
Bydd gofyn i chi feddu ar gymhwyster mewn gwaith cymdeithasol cydnabyddedig ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydyn ni'n awyddus iawn yn benodol i glywed gan y rheiny sy'n meddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso.
Rydyn ni ym Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn deall bod gwaith cymdeithasol yn swydd heriol yn broffesiynol ac yn bersonol. Dyma pam rydyn ni'n cynnig:
- Carfan rheoli cefnogol a phrofiadol sy'n gefn i chi yn ystod pob cam
- Canolfan Datblygu a Dysgu yn rhan o'r Gwasanaeth er mwyn eich cynorthwyo chi i dyfu a ffynnu yn eich swydd
- Llwybr gyrfa glir gyda chyfleoedd cynnydd
- Pecyn buddion i weithwyr hael, gan gynnwys:
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth Hamdden am Oes rhatach
- Mynediad at gynllun Beicio i'r Gwaith a chynllun technoleg cwmni Let's Connect
Am sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rhiannon Shepherd, Rheolwr Perfformiad ac Arfer y Garfan:
Rhiannon.Shepherd@rctcbc.gov.uk Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.