Gradd 11 - Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 - Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'u Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau ar gyfer swydd Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol parhaol yn rhan o Garfan Iechyd Meddwl Cymuned Taf-elái ym Mharc Iechyd Dewi Sant, Heol Albert, Pontypridd, CF37 1LB. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar weithio ag unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl.Mae'r garfan yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Seiciatrig, Seicolegwyr a Therapydd Galwedigaethol.
O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn i chi weithio'n rhan o garfan a deall cryfderau a heriau gwaith aml-ddisgyblaethol. Rhaid bod gyda chi'r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd. Bydd angen ymgymryd ag asesiadau o anghenion unigolion a'u cynhalwyr, cyd-baratoi a gweithredu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth lle bo angen a bod yn Gydlynydd Gofal. Bydd angen gweithio yn unol â gofynion deddfwriaethol allweddol, megis Mesurau Iechyd Meddwl Cymru (2010), Deddf Iechyd Meddwl (1983) a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Hefyd, bydd angen dealltwriaeth o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae'r swydd yn heriol a bydd angen i chi ddangos dealltwriaeth ac ymroddiad o agwedd ar sail gwella tuag at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa yn y maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarfer ar gyfer cymheiriad. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Caiff goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol eu rhoi'n rheolaidd. Bydd ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, e.e. dyfarniadau Ôl-gymhwyso CPEL, neu'r cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Caiff cyflog ehangach ei gynnig i ymgeiswyr sydd â'r cymhwyster Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac sy'n cyflawni'r rôl honno yn rhan o'r swydd.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig, megis gradd mewn gwaith cymdeithasol, diploma mewn gwaith cymdeithasol neu Dystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol ('CQSW'). Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru â Chyngor Gofal Cymru.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, yn eu cyfweliad.Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau gweithio hyblyg
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Gostyngiadau Siopa gyda cherdyn Vivup
I gael ragor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol ffoniwch y Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad. Sean Gallagher - 07824541632 Carfan Iechyd Meddwl Taf-elái, Parc Iechyd Dewi Sant, Heol Albert, Pontypridd, CF37 1LBMae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.