Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru Math o gontract: Swydd Barhaol Amser Llawn (37 awr yr wythnos) Gweithle: Carfan Iechyd Meddwl y Gymuned Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Cynon. Rydyn ni am benodi Gweithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol i weithio'n rhan o Wasanaeth Iechyd Meddwl y Gymuned yn ardal Cwm Cynon.
Rydyn ni'n falch o gynnig y cyfle yma i weithio yn rhan o Garfan Iechyd Meddwl y Gymuned Cwm Cynon. Dyma garfan amlddisgyblaethol sy'n gweithio gydag oedolion ag anghenion iechyd meddwl.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn i chi weithio'n rhan o garfan a deall cryfderau a heriau gwaith aml-ddisgyblaethol. Rhaid bod gyda chi'r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd. Bydd angen ymgymryd ag asesiadau o anghenion unigolion a'u cynhalwyr, cyd-baratoi a gweithredu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth lle bo angen a bod yn Gydlynydd Gofal. Bydd angen gweithio yn unol â gofynion deddfwriaethol allweddol, megis Mesurau Iechyd Meddwl Cymru (2010), Deddf Iechyd Meddwl (1983) a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Bydd angen dealltwriaeth o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ogystal.
Mae'r swydd yn heriol a bydd angen i chi ddangos dealltwriaeth ac ymroddiad o agwedd ar sail gwella tuag at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa yn y maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarfer ar gyfer cymheiriad. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Caiff goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol eu rhoi'n rheolaidd. Bydd cyfle eang am ddatblygiad proffesiynol parhaus, e.e. dilyn cymwysterau/hyfforddiant CPEL ôl-raddedig i ddod yn Aseswr Lles Gorau ynghylch Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (2007) ac o bosibl yn ennill cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Caiff cyflog ehangach ei gynnig i ymgeiswyr sydd â'r cymhwyster Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac sy'n cyflawni'r rôl honno yn rhan o'r swydd.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig, e.e. gradd mewn gwaith cymdeithasol, diploma mewn gwaith cymdeithasol neu CQSW. Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, yn eu cyfweliad. Am drafodaeth mewn perthynas âr swydd yma, ffoniwch Bernadette Bond (Rheolwr Arfer a Chyflawniad y Garfan) ar (01443) 715100. Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Gostyngiadau Siopa gyda cherdyn Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.